Swydd: Arbenigwrr Arloesedd                                                                                                       

Lleoliad: Bae Caerdydd / CRI (Abertawe)                                                                                                      

Yn gyfrifol: Rheolwr Darpariaeth Rhaglen                                                                                                

Cyflog: £30,000 - £40,000                                                                                                                    

Diwydiant:  Gwyddorau Bywyd / Gofal Iechyd                                                                                              

Math o gontract: Parhaol                                                                                                                         

Oriau: Llawn Amser                                                                                                                              

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 28 Rhagfyr 2018

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf yn sefydliad bywiog a deinamig sydd wedi ymrwymo i greu manteision economaidd a sicrhau iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel i bobl a theuluoedd ledled Cymru, a hynny drwy arloesi.

Dros y 12 mis diwethaf, mae ein cyfeiriad strategol wedi cael ffocws newydd. Yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru a chanllawiau ein Bwrdd Cyfarwyddwyr, rydym wedi newid o fod yn sefydliad aelodaeth fusnes i fod yn sbardunwr cyfranogiad agored yn y diwydiant gwyddorau bywyd, gan weithio’n agos gyda chlinigwyr, y GIG, y diwydiant, y byd academaidd a’r Llywodraeth.

Gan adrodd i’r Rheolwr Cyflawni Rhaglen bydd rôl yr Arbenigwr Arloesi yn bwysig o ran cyflawni'r prosiect CYFLYMU yn llwyddiannus, sef prosiect cyflymu technoleg arloesi iechyd a fydd yn cael ei ddarparu ledled Cymru yng nghyswllt cyfleoedd cynhenid a mewnfuddsoddi ac a gaiff ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar ffurf menter gydweithredol rhwng pedwar sefydliad, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf (Prif Fuddiolwr) - prosiect gwerth £24 miliwn.

Bydd yr Arbenigwr Arloesi yn gweithio fel rhan o Dîm CYFLYMU sydd wedi’i leoli yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a’i bartneriaid, a bydd yn gyfrifol am bortffolio o gyfleoedd a gaiff eu llunio a’u darparu gyda phartneriaid y prosiect a thîm ehangach yr Hwb.

Gan fod hon yn rôl newydd, bydd cyfrifoldebau a dyletswyddau penodol y swydd yn datblygu’n organig yn y cyfnod byr. Bydd y Rheolwr Cyflawni Rhaglen a deiliad y swydd yn cytuno ar ddisgrifiad terfynol ar gyfer y swydd ar adeg briodol

Bydd y tîm o Arbenigwyr Arloesi yn gweithredu ar draws Cymru gyfan, gan weithio gyda diwydiant, y gwasanaeth iechyd ac academia. Rôl beripatetig yw hon. Felly bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn barod i deithio, a gallu gwneud hynny, a threulio cyfran fawr o'i amser yn y maes.

Dylai ceisiau gael eu gwneud drwy datganiad personol i gefnogi CV cyfredol i Sophie Lacey ar  Sophie.lacey@lshubwales.com erbyn y diwrnod cau (28 Rhagfyr 2018). Fe croesawir ceisiadau yn yr Gymraeg neu'r Saesneg.  Fe fydd y ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd am cyfweliad.

Dylech nodi y bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu'n barhaus.

Am fwy o wybodaeth ar y swyddi, lawr-lwythwch y disgrifiad swydd yma.

Innovation Specialist

WEFO