Mae Cymru’n genedl o gymunedau, sy’n amrywio o ran maint, natur a daearyddiaeth. Un o’r heriau mwyaf enbyd sy’n wynebu’r GIG a systemau gofal cymdeithasol yma yw poblogaeth sy’n heneiddio, gydag unigolion sy’n aml â chyd-afiachedd niferus ac anghenion gofal cymhleth.
Yr Her
Erbyn 2030, bydd un o bob pedwar person yng Nghymru dros 65 oed – amcangyfrifir bod hynny’n 700,000 o bobl. Mae’n bwysig ein bod yn mabwysiadu technoleg newydd a fydd yn helpu’r boblogaeth i gadw’n iach, yn hapus ac yn weithgar cyhyd â phosibl. Mae pwysigrwydd yr her yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau canlynol Llywodraeth Cymru - ‘Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ a’r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023’.
Y Cyfle
Mae busnesau, mentrau cymdeithasol ac ymchwilwyr ledled Cymru yn ymgymryd â’r her ac mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi eu hymdrechion. Ein nod yw cefnogi cydweithwyr ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau buddsoddiad ychwanegol gan raglenni’r DU gyda chefnogaeth y diwydiant.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â her heneiddio’n iach drwy arloesi wrth ddarparu gwasanaethau a mabwysiadu technoleg, fel monitro o bell, cynnal iechyd, a datblygu a defnyddio technolegau cynorthwyol a dyfeisiau rhyngweithiol i drechu unigrwydd ac arwahanrwydd.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn awyddus i ddatblygu perthynas ag arbenigwyr blaenllaw ym maes heneiddio’n iach ar draws iechyd, y byd academaidd a’r diwydiant er mwyn sicrhau newid i gefnogi canlyniadau llwyddiannus i gleifion.
Os oes gennych chi her neu ateb o gefndir ym maes iechyd neu’r diwydiant a bod gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio i ateb heriau heneiddio’n iach, cysylltwch â’n tîm drwy hello@lshubwales.com.