Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mewn partneriaeth ag Academi'r Gwyddorau Meddygol, rydyn ni wedi cynnal digwyddiad yn ddiweddar a oedd yn dod ag arloeswyr ac ymchwilwyr o wahanol feysydd ynghyd i drafod pwnc pwysig iawn: canfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar. Mae’r rhaglen draws-sector hon wedi’i chynllunio i feithrin cydweithrediad, sbarduno arloesedd ym maes iechyd a phontio’r bwlch rhwng sectorau. 

Delegates gathering and networking

Dan gadeiryddiaeth Jason Lintern, Arweinydd Arloesi ym maes Iechyd yn Llywodraeth Cymru, dechreuodd y digwyddiad gyda sesiwn rwydweithio ddeinamig – y dechrau perffaith ar gyfer diwrnod llawn cydweithio a dysgu ar y cyd. Pwysleisiodd Jason yr angen parhaus i Gymru arwain datblygiadau ym maes gofal canser, a hynny drwy sicrhau gwelliant parhaus ac ehangu cysylltiadau.  

Dulliau arloesol o wneud diagnosis o ganser

Rhoddodd Annie Dahl, Rheolwr Arloesi yn Cymorth Canser Macmillan, gipolwg ar eu cydweithrediadau diweddar, gan ddangos eu hymrwymiad i ddatrysiadau sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae’r prif fentrau yn cynnwys:

  • Prosiect Deallusrwydd Artiffisial Lucida Medical. Mae’r cyfarpar hwn, sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, yn gwella cywirdeb diagnosis canser y prostad gan symleiddio ffrydiau gwaith i glinigwyr a gwella gofal i gleifion.
  • Treial dilledyn ailgylchadwy Heartsnug: Menter sydd a’r nod o sicrhau bod cleifion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn ystod profion sgrinio drwy leihau’r diffyg cysur sy’n gysylltiedig â gŵn arferol ysbytai.

Bu Dr Magdalena Meissner, Prif Feddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac Arweinydd Biopsïau Hylif Clinigol yn Labordy Geneteg Feddygol Cymru Gyfan, yn rhannu datblygiadau’r prosiect QuicDNA, gan dynnu sylw at y defnydd o brofion biopsi hylif ar gyfer gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn gynt. Mae biopsïau hylif yn lleihau llwybrau diagnostig o sawl wythnos, gan alluogi penderfyniadau cynt ynghylch triniaethau a sicrhau gwell canlyniadau i gleifion ar draws byrddau iechyd Cymru. ment decisions and improved patient outcomes across Welsh health boards.

“Os byddwn yn sicrhau bod y llwybr diagnostig ddwy neu dair, neu hyd yn oed bedair wythnos yn llai, gallwn achub bywydau. Gall biopsïau meinwe fod yn ymwthiol, ac nid oes cyfle bob amser i gynnal mwy nag un. Mae biopsïau hylif yn llai ymwthiol, ac maen nhw’n darparu canlyniadau yn gynt o lawer. Y nod yw lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, a gwella cyfraddau triniaethau wedi’u targedu.” - Dr Magdalena Meissner, Prif Feddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre, ac Arweinydd Biopsïau Hylif Clinigol yn Labordy Geneteg Feddygol Cymru Gyfan

Effaith canfod canser yn gynnar ar ganlyniadau i gleifion

Ni ellir gorbwysleisio effaith canfod canser yn gynnar ar ganlyniadau i gleifion. Roedd sesiwn Dr Elizabeth Sharkey yn trafod y pwysigrwydd o wneud diagnosis o ganser yn gynnar, gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen beilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint. Mae’r rhaglen beilot hon wedi llwyddo i ganfod canser yr ysgyfaint yn y cyfnod cynnar ymhlith poblogaeth risg uchel.

Mae llwyddiant y rhaglen beilot o ran cynyddu nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio ac yn cael diagnosis cynnar yn dangos y gall ymwybyddiaeth y cyhoedd a rhaglenni profion sgrinio wedi’u targedu arwain at welliannau sylweddol mewn canlyniadau canser yng Nghymru.

Clywsom hefyd gan Julie Hepburn, Prif Bartner Ymchwil Lleyg yng Nghanolfan Ymchwil Canser Cymru, a fu’n trafod pwysigrwydd cynnwys cleifion mewn ymchwil er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Rhannodd Julie ei phrofiad personol fel partner cleifion mewn ymchwil, gan dynnu sylw at y pwysigrwydd o wneud diagnosis yn gynnar i leihau'r angen am driniaethau ymwthiol. Rhoddodd gipolwg ar gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau canser y coluddyn, sy’n hanfodol ar gyfer gwella cyfraddau goroesi a lleihau costau’r GIG. Mae cynnwys safbwyntiau cleifion fel Julie yn sicrhau bod gwaith ymchwil a mentrau gofal iechyd yn parhau i ganolbwyntio ar gleifion. 

Effaith bersonol ac eiriolaeth

Canser y coluddyn ydy'r trydydd canser mwyaf cyffredin yn y byd, a dyma’r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaethau oherwydd canser yn y Deyrnas Unedig. Bu Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd CanSense, yn trafod eu prawf biopsi hylif sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial ac sy’n ceisio canfod canser y coluddyn yn gynnar gydag un prawf gwaed. Wrth sôn am ei daith bersonol gyda lymffoma, tynnodd Adam sylw at y pwysigrwydd o gael diagnosis yn gynnar.

“Mae canser yn effeithio ar bawb. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn y mae CanSense yn ceisio ei gyflawni. Pe bawn i wedi cael diagnosis digon cynnar, gallwn fod wedi cael triniaeth wedi’i thargedu a allai fod wedi arbed llawer o boen i mi. Gall samplau serwm gwaed (biopsïau hylif) ganfod a oes gan rywun ganser. Mae hwn yn brawf cost-effeithiol iawn.” – Adam Bryant, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd CanSense.

Mae’r profion diagnostig cyflym a chost-effeithiol hyn yn lleihau’r pwysau ar y GIG ac yn darparu gwell profiad a chanlyniadau i gleifion. Drwy roi diagnosis i bobl yn gynt, pan fydd canser y coluddyn yn haws ei drin, gall clinigwyr a meddygon teulu wneud penderfyniadau cyflymach. Roedd galwad Adam am gydweithio a chefnogaeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymdrechion ar y cyd wrth yrru mentrau arloesol yn eu blaen. 

Safbwyntiau ar y diwrnod...

Roedd y digwyddiad traws-sector ar ganfod a gwneud diagnosis o ganser yn gynnar wedi dod â safbwyntiau ac arbenigedd amrywiol ynghyd. Drwy gyfleoedd rhwydweithio deinamig a chyflwyniadau diddorol, buom yn archwilio dulliau arloesol gwahanol, fel cyfarpar sy’n cael ei yrru gan ddeallusrwydd artiffisial, biopsïau hylif a mentrau sy’n canolbwyntio ar gleifion – i gyd wedi’u hanelu at wella gofal canser yng Nghymru. 

“Un peth sy’n arwydd amlwg o ddigwyddiad traws-sector amserol yw pan fydd arbenigwyr o gefndiroedd syniadol gwahanol (er enghraifft arweinwyr masnachol a hyrwyddwyr clinigol a chleifion) yn dod at ei gilydd ac yn cyflwyno datganiadau problem cyson iawn, a oedd yn gwbl amlwg yn ystod Gweithdy Canser Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru/Academi’r Gwyddorau Meddygol. Yn yr achos yma, roedd hyn yn dangos dealltwriaeth ddofn o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n bodoli ar draws y llwybrau diagnosis a thriniaeth canser yng Nghymru.

Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfuniad unigryw o her wedi’i diffinio’n dda, tystiolaeth gadarn a fframwaith ar gyfer ymgysylltu a chyflawni ar y cyd – i gyd wedi’u cefnogi gan yr Academi Genedlaethol a llywodraeth ddatganoledig.” – Peter Bannister, Cyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Roedd y trafodaethau bywiog a’r cysylltiadau newydd a wnaed yn ystod y digwyddiad wedi ein hysbrydoli a’n cymell i barhau â’n taith tuag at wella gofal canser drwy arloesi a chydweithio. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu ein digwyddiad nesaf? Ymunwch â ni ar y 3ydd o Hydref yn Abertawe i drafod popeth digidol a data ym maes gofal canser. Cofrestrwch eich lle i fynychu.