Cath O’Brien MBE

Cath O’Brien MBE yw Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, lle mae ganddi hanes llwyddiannus o ddarparu rhaglenni newid mawr. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr Canolfan Addysg Broffesiynol Fferylliaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd mae hi’n arwain tîm rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar sut y gallai datblygiadau mewn Therapi Celloedd a Genynnau ddarparu gwell gofal i gleifion, yn ogystal â sicrhau budd economaidd.
Yn ystod ei gyrfa gynnar, bu’n gweithio fel fferyllydd cymunedol yng Nghaerdydd ac yn ne Cymru, cyn cael swyddi uwch-reoli mewn cwmnïau fferylliaeth fasnachol. Yn 2002, cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithasol Fferyllol Frenhinol. Ar ôl hynny fe wnaeth hi ymgymryd ag ystod o waith datblygu polisi ledled y DU, gan ymgysylltu â chwmnïau fferylliaeth fasnachol a sefydliadau academaidd.
Mae gan Cath radd BPharm o Brifysgol Llundain.