Dr Melya Hughes Crameri

Partner, Ventac Partners
Dr Melya Hughes Crameri

Mae Dr Melya Hughes Crameri yn bartner yn Ventac Partners. Dyma gwmni ymgynghori busnes a chyfalaf menter ac mae’n symud prosiectau arloesol sy'n seiliedig ar dechnoleg o’r labordy i’r farchnad. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r diwydiant gwyddorau bywyd drwy gynghori Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru.

Mae gan Melya dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwyddorau bywyd yn UDA ac yn Ewrop. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Is-lywydd Cynghreiriau ac Eiddo Deallusol Evolva SA a Phrif Weithredwr Genetic Chemistry Inc.

Mae Melya yn Atwrnai Patentau yn Ewrop ac yn Atwrnai Patentau yn UDA. Cafodd ei gradd BSc (Anrh) mewn Biocemeg o Brifysgol Caerdydd a’i gradd PhD mewn Biocemeg o Brifysgol Basel, y Swistir.