Jarred Evans

Director, PDR International Centre for Design and Research
Jarred Evans

Jarred Evans yw Cyfarwyddwr PDR, Canolfan Ryngwladol ym maes Dylunio ac Ymchwil. Mae'r ganolfan hon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae’n cyfuno ymchwil o safon uchel gydag arferion ymgynghori llwyddiannus.

Mae gan Jarred dros 25 mlynedd o brofiad mewn dylunio ac arloesi cymwysedig. Cyn iddo weithio yn PDR, mae wedi cael uwch swyddi mewn nifer o gwmnïau sy'n gweithgynhyrchu cynnyrch a dyfeisiadau meddygol. Mae ganddo dros 60 o gynnyrch yn y farchnad, sy'n amrywio o ddyfeisiau meddygol i nwyddau defnyddwyr. Mae wedi cael dros 20 o wobrau rhyngwladol mawr am ddylunio ac mae wedi cael nifer o batentau a chyhoeddiadau hefyd.

Mae gan Jarred Raddau BA ac MA mewn Dylunio Diwydiannol, yn ogystal ag MBA a chymwysterau marchnata strategol ôl-raddedig a phortffolio patentau helaeth.