Rupert Jones

Cyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Rupert Jones

Rupert Jones yw Rheolwr Gyfarwyddwr busnesau meddygol Reinshaw plc. Mae Reinshaw yn gwmni peirianneg a thechnoleg sy’n arbenigo mewn mesur manwl a gofal iechyd. Mae’r cwmni'n cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion sy'n amrywio o weithgynhyrchu tyrbinau gwynt ac injans jet, i ddeintyddiaeth a llawdriniaethau ar yr ymennydd.

Mae Rupert wedi gweithio yn y sector biowyddorau am 20 mlynedd. Cyn iddo weithio yn Reinshaw, roedd ganddo swyddi rheoli yn GE Healthcare a Biowyddorau Amersham.

Cymraeg yw iaith gyntaf Rupert ac mae ganddo radd mewn Bioleg Gymwysedig o Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru.