Banc Datblygu Cymru
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
£10,000,000
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Cyllid busnes hyblyg i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sy’n cynnig symiau o £1,000 i hyd at £10 miliwn. Benthyciadau ac ecwiti. Benthyciadau wedi’u diogelu a heb eu diogelu.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Banc Datblygu Cymru heddiw!
Cronfa Fenthyciadau HSBC
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Dim
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Mae HSBC UK wedi cyhoeddi cronfa fenthyciadau gwerth £14 biliwn i helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y DU. Mae’r Gronfa’n cynnwys £1 biliwn wedi’i glustnodi i helpu cwmnïau o’r DU i hybu eu busnes dramor, yn ogystal â phecyn cymorth ehangach. Mae’r cynllun ar gael i fusnesau yn y DU gyda throsiant hyd at £350 miliwn. Nid oes yn rhaid i ymgeiswyr fod yn gwsmeriaid HSBC i ymgeisio.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan HSBC heddiw!
Cronfa Fuddsoddi Ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Heb ei nodi
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Mae’r gystadleuaeth yn dal ar agor
Trosolwg o’r cyllid:
O gyllid gwreiddiol y Fargen Ddinesig, dyrannwyd £495m i Gronfa Fuddsoddi Ehangach. Dyma’r brif gronfa y dylai cynigion sy’n cyd-fynd â’r 3 maes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, sef Arloesi, Seilwaith a Herio, wneud cais amdani. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn chwilio am gynigion ar gyfer y gronfa hon sydd â’r raddfa a’r uchelgais i fynd i’r afael yn radical â’r heriau sy’n wynebu’r rhanbarth.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw!
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - Pobl a Lleoedd: Grantiau Mawr
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
£10,001 i £500,000
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Dim
Trosolwg o’r cyllid:
Pobl a Lleoedd: Mae grantiau mawr yn cynnig cyllid o £10,001 i £500,000 ar gyfer prosiectau lle mae pobl a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn defnyddio eu cryfderau i gael effaith gadarnhaol ar y pethau sy’n bwysig iddynt. Rydym yn blaenoriaethu prosiectau sy’n:
- cefnogi mudiadau i addasu neu i arallgyfeirio i ymateb i heriau newydd ac i’r dyfodol
- cefnogi cymunedau y mae COVID-19 wedi effeithio’n andwyol arnynt
- cefnogi cymunedau a mudiadau i fod yn fwy gwydn i’w helpu i ymateb yn well i argyfyngau yn y dyfodol.
- Bydd ceisiadau da/llwyddiannus yn cael eu harwain gan bobl, yn seiliedig ar gryfderau ac yn gysylltiedig.
Er ein bod yn cefnogi ymatebion i’r pandemig, nid oes yn rhaid i’ch prosiect fod yn uniongyrchol gysylltiedig â COVID-19 i gael ei ariannu.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Y Loteri Genedlaethol heddiw!
Cyllid Elusennau Sefydliad Lloyds Bank (Cymru a Lloegr)
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Diderfyn
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Mae’r gystadleuaeth yn dal ar agor
Trosolwg o’r cyllid:
Mae Sefydliad Lloyds Bank yn cynnig arian diderfyn i elusennau bach a lleol sy’n helpu pobl i oresgyn problemau cymdeithasol cymhleth. Dylai elusennau sy’n ymgeisio fod ag incwm blynyddol o £25,000 i £1 filiwn a chefndir llwyddiannus o helpu pobl i gyflawni newid cadarnhaol drwy gefnogaeth fanwl, gyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yng nghyd-destun materion cymdeithasol cymhleth.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Sefydliad Lloyds Bank heddiw!
Cynllun Cyllid Corfforaethol GSK
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Dim cyfyngiad
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Dim
Trosolwg o’r cyllid:
Darparu cyllid i sefydliadau sy’n rhannu ein pwrpas arbennig i helpu pobl i wneud mwy, i deimlo’n well ac i fyw’n hirach. Mae GSK yn darparu cymorth ariannol i sefydliadau sy’n: Meithrin gwell dealltwriaeth o faterion gwyddonol, clinigol, gofal iechyd a chymunedol; Dangos diddordeb cyffredinol mewn mynd ati i atal, trin a rheoli clefydau. Cyfrannu at wella gofal i gleifion ac ansawdd bywyd.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan GSK heddiw!
Datganiad o ddiddordeb: llwybr brys i ymchwil cyfnod penodol i COVID-19
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
£80,000
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Ymgeisiwch am gyllid i helpu i gasglu data neu samplau cyfnod penodol tymor byr neu ymchwil neu ddadansoddiad a gwblheir yn gyflym i naill ai:
- Llywio polisi brys neu bolisi penderfynu cenedlaethol
- Sicrhau data i’w ddefnyddio yn ymchwil y dyfodol
Noder, mae hwn yn llwybr brys mewn amgylchiadau eithriadol nad yw’n cael ei ddyfarnu’n aml.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan UKRI heddiw!
EIC Accelerator
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
€ 2,500,000
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Mae’r EIC Accelerator yn cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), a rhai sy’n cychwyn a chwmnïau deillio’n fwyaf penodol i ddatblygu a chynyddu datblygiadau arloesol. Mewn rhai achosion gellir cynorthwyo busnesau canolig (hyd at 500 o gyflogeion).
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Cyngor Arloesi Ewrop heddiw!
Future Fund: Breakthrough
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Dim
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Bydd y rhaglen DU gyfan hon yn cynnig £375m o gyllid y llywodraeth drwy British Patient Capital, is-gwmni masnachol Banc Busnes Prydain. Oherwydd costau uchel ymchwil a datblygu, fel arfer mae angen mwy o gyfalaf ar gwmnïau cychwynnol technoleg na chwmnïau eraill, i hybu camau hwyrach eu twf. Mae’n gweithredu ar delerau masnachol gyda buddsoddwyr o’r sector preifat yn cyd-fuddsoddi â British Patient Capital.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Future Fund heddiw!
Galwad Agored Moondance Cancer Initiative
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
Dim
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Mae’r Moondance Cancer Initiative yn ariannu prosiectau sy’n arloesi ac yn gwella’r cyd-ymateb i ganser yng Nghymru fel y bydd mwy o bobl yn goroesi. Maent yn croesawu ceisiadau unrhyw bryd ar gyfer prosiectau a all gael effaith fesuradwy ar ganlyniadau goroesi cleifion â chanser ac mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n ymwneud â chanser y coluddyn a chanser gastroberfeddol uchaf.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Moondance Cancer Initiative heddiw!
Grant technolegau gofal iechyd a arweinir gan ymchwilwyr
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
80% o gostau prosiect
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Mae grantiau technolegau gofal iechyd a arweinir gan ymchwilwyr ar gyfer ymchwilwyr mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU, sefydliadau cyngor ymchwil, sefydliadau ymchwil annibynnol a gymeradwywyd gan yr UKRI a chyrff y GIG. Mae’r cyllidwr yn annog cydweithredu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ymchwilwyr eraill, diwydiant, y sector cyhoeddus a phartneriaid perthnasol eraill. Dylai eich cais gyd-fynd â heriau pwysig themâu technolegau gofal iechyd yr UKRI.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan UKRI heddiw!
Grantiau Arloesi NAVIGATOR MedTech
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
£7,500
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Agored
Trosolwg o’r cyllid:
Mae Grantiau Arloesi NAVIGATOR MedTech wedi’u cynllunio i hwyluso rhyngweithio pwrpasol rhwng BBaChau a Darparwyr Gwybodaeth cymwys, fel Ymddiriedolaethau GIG, neu Brifysgolion, yn ystod y broses o ddatblygu cynnyrch. Mae pob Grant Arloesi (hyd at £7,500) yn werth 50% o gyfanswm costau’r prosiect hyd at uchafswm o £15,000. Rhaid i’ch busnes dalu’r 50% arall ac unrhyw gostau’r prosiect dros y trothwy o £15,000.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan MedTech Navigator heddiw!
Gwobrau Catalydd Heneiddio’n Iach 2022
Uchafswm y cyllid sydd ar gael:
hyd at £62,500
Dyddiadau allweddol ac amserlenni:
Mae’r gystadleuaeth yn dal ar agor
Trosolwg o’r cyllid:
Ers y cais cyntaf ar gyfer Gwobrau Catalydd Heneiddio’n Iach yn 2020, mae Zinc ac UKRI wedi creu partneriaeth i ariannu academyddion entrepreneuraidd sydd eisiau troi eu hymchwil yn gynnyrch, yn wasanaethau ac yn ymyriadau dylanwadol y mae modd eu rhoi ar waith ar raddfa fwy. Mae’r Gwobrau’n rhan o Her Heneiddio’n Iach UKRI a Her Fawr Fyd-eang Hir Oes Iach, a sefydlwyd gan Academi Feddygaeth Genedlaethol yr Unol Daleithiau. Mae hwn yn fudiad byd-eang i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl wrth iddynt heneiddio. Yn 2022, bydd Zinc yn cefnogi ei drydedd garfan o ymchwilwyr i greu arloesedd sy’n: Caniatáu i bawb aros yn egnïol, yn gynhyrchiol, yn annibynnol ac wedi’u cysylltu’n gymdeithasol ar draws y cenedlaethau am gyn hired â phosibl; Cau’r bwlch rhwng profiadau’r cyfoethocaf a’r tlotaf.
Dysgwch ragor:
Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y cyllid, ewch i wefan Zinc heddiw!