Skip to main content

Mae’r gwefan hon yn defnyddio cwcis i wneud y gwefan yn symlach, dysgwch mwy am gwcis.

  • English
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
Life Sciences Hub Wales home page
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
  • Astudiaethau achos
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Ymuno â'n tîm
  • Amdanom ni
    • Croeso
    • Ein Bwrdd
    • Blaenoriaethau
    • Llogi ystafell
    • Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr
    • Cysylltu â ni
    • Ymuno â'n tîm
  • Cefnogaeth
    • Cefnogi Arloesi
    • Cyflymu Cymru
    • EIDC
    • Cyfleoedd cyllido
    • Academïau Dysgu Dwys Cymru
    • Gwybodaeth Sector
  • Prosiectau
  • Adnoddau
    • Adnodd Cyflawni Arloesedd
    • Blog
    • Podlediad
  • Ymholiadau
Delwedd addurniadol yn y cefndir

Gwybodaeth Sector

Mae’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru wedi parhau i dyfu dros y degawd diwethaf. Bellach mae’n cyfrannu dros £2bn at economi Cymru ac yn 2019 roedd yn cyflogi bron i 12,000 o bobl.  

Mae gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Dîm Gwybodaeth Sector penodol sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i sicrhau eich bod chi’n gwbl gymwys i weithio yn y sector deinamig hwn. Os yw eich cefndir chi mewn diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol neu’r byd academaidd, rydym ni yma i’ch cefnogi chi.

Sganio’r gorwel a chwilota am arloesedd

Gan gyfuno arbenigedd eang o’r sector a mynediad at asedau gwybodaeth marchnad perchnogol, mae’r Tîm Gwybodaeth Sector yn cefnogi’r gwaith o chwilio am gynnyrch a thechnegau arloesol mewn ymateb i heriau gofal iechyd penodol. 

Rydym ni’n cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes arloesi ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i ganfod a brysbennu technolegau newydd a allai drawsnewid y farchnad.  

Canllawiau technegol

Mae’r Tîm Gwybodaeth Sector yn defnyddio arbenigedd mewnol a’i rwydwaith ehangach o arbenigwyr i gynnig cefnogaeth gydag amrywiaeth o heriau technegol penodol y gallech chi eu hwynebu wrth arloesi. Mae hyn yn cynnwys diogelu ac erlyn Eiddo Deallusol, canllawiau ynglŷn â llwybrau rheoleiddio clinigol, a modelu economaidd ym maes iechyd. 

Cynnal grwpiau rhanddeiliaid

Fel corff hyd braich o Lywodraeth Cymru, rydym ni mewn sefyllfa dda i weithredu fel brocer niwtral wrth ddod â grwpiau rhanddeiliaid amrywiol at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ymwneud ag arloesi clinigol. 

Cymorth cyllido

Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau, sy’n cynnwys: 

  • Cyfeirio cynlluniau cyllido priodol ar gyfer prosiectau arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy ein perthynas â Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill. 
  • Cefnogi’r gwaith o ysgrifennu cynigion, cyflwyniadau ymarfer a chyfweliadau. 
  • Defnyddio ein cysylltiadau agos â’r gymuned Cyfalaf Menter i roi arweiniad i fusnesau bach a chanolig ac arloeswyr ar barodrwydd i fuddsoddi, cynllunio busnes a gwneud ceisiadau am fuddsoddiad.  
  • Casglu rhestr helaeth o gyfleoedd cyllido. 
Dadansoddi’r farchnad

Mae’r Tîm Gwybodaeth Sector yn eich helpu i ddadansoddi deinameg y farchnad gofal iechyd yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol er mwyn canfod cryfderau, bylchau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn y sector. 

Paratoi achosion busnes

Mae’r holl alluoedd a amlinellir uchod yn caniatáu i’r Tîm Gwybodaeth Sector gefnogi eich gwaith o baratoi achosion busnes o safon lywodraethol sydd wedi’u hanelu at sbarduno prosiectau arloesi ar hyd y llwybr datblygu tuag at ei fabwysiadu’n glinigol yn eang. 

 Adroddiadau'r Sector 

Mae’r Tîm Gwybodaeth Sector yn gweithio ar wahanol ddarnau o wybodaeth ac adroddiadau. Mae hyn yn cynnwys:

Data mawr, AI a dadansoddiadau rhagfynegol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r cynnydd mewn technolegau data mawr yn gyrru twf y diwydiant gofal iechyd drwy chwyldroi sut rydym ni’n trin clefydau. Mae meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn un o brif gatalyddion y trawsnewidiad hwn. Mae dadansoddiadau data mawr yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr iechyd y claf er mwyn gwella ei ganlyniadau. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd cleifion, ysbytai a chwmnïau yswiriant yn elwa o’r gwaith arloesol hwn, ond bydd y sector gofal iechyd yn gwella’n aruthrol hefyd.... 

Eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â ni heddiw!

Patrymau marchnata yn y sector gwyddorau bywyd

Mae tueddiadau marchnata’n datblygu’n gyson, a dylai cwmnïau gwyddorau bywyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y sector hwn er mwyn aros yn ystwyth ac yn adweithiol. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar dueddiadau byd-eang diweddar mewn marchnata a safbwyntiau ar gyfer y gwyddorau bywyd a busnesau llai. Ystyrir effaith Covid-19, gan gynnwys rhagor o ddibyniaeth ar ddulliau marchnata digidol. Mae’r adroddiad yn edrych ar ddata arolwg o wahanol dactegau marchnata digidol, gan nodi pa rai sy’n cael eu hystyried yn fwyaf effeithiol a lleiaf effeithiol o ran cyfathrebu â chynulleidfaoedd yn y diwydiant gwyddorau bywyd, meddygol ac iechyd... 

Eisiau rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â ni heddiw!

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth Sector drwy anfon neges e-bost at hello@lifescienceshubwales.com.  A fyddech chi cystal â rhoi cymaint o fanylion cychwynnol â phosibl i ni.

Cysylltwch â ni!
Os oes gennych chi syniad neu brosiect arloesol yn barod a’ch bod yn chwilio am gymorth i gyflymu eich arloesedd, cysylltwch â ni!
Ffurflen Ymholiad Arloesi
Life Sciences Hub logo Welsh Government logo
  • Amdanom ni
    • Croeso
    • Ein Bwrdd
    • Blaenoriaethau
    • Llogi ystafell
    • Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr
    • Cysylltu â ni
    • Ymuno â'n tîm
  • Cefnogaeth
    • Cefnogi Arloesi
    • Cyflymu Cymru
    • EIDC
    • Cyfleoedd cyllido
    • Academïau Dysgu Dwys Cymru
    • Gwybodaeth Sector
  • Prosiectau
  • Adnoddau
    • Adnodd Cyflawni Arloesedd
    • Blog
    • Podlediad
  • Ymholiadau
  • Astudiaethau achos
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Ymuno â'n tîm
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
3 Assembly Square
Cardiff Bay
CF10 4PL

Rhif ffon: : +44 (0)29 2046 7030

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost : helo@hwbgbcymru.com
  • Facebook
  • Twitter
  • Linked In
  • Youtube
  • Hygyrchedd
  • Llywodraethu
  • Telerau
  • Preifatrwydd
  • Sitemap
© 2022 Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru