Ein cenhadaeth yw helpu i gyflymu arloesedd sydd o fudd i iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru. Os ydych chi’n sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy’n chwilio am gymorth, adnoddau neu arweiniad, gallwn ni helpu.
Er bod pob prosiect arloesi yn wahanol iawn, gallwn ddarparu cymorth ar draws cylch gwaith amrywiol:
- Mynediad at ein Porth Arloesi i hwyluso eich galwad neu’ch her i’r diwydiant
- Cymorth i dargedu a hyrwyddo eich galwad neu’ch her i’r diwydiant
- Rheoli a hwyluso prosiectau arloesi
- Hwyluso ymgysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant
- Cefnogi a datblygu partneriaethau gydag arloeswyr o’r un anian ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant
- Cefnogi, hwyluso a rheoli digwyddiadau
- Cymorth marchnata a chyfathrebu
- Mynediad at y Rhwydwaith Arloesi Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mynediad at ein hadnodd Cyflawni Arloesedd.
I gael rhagor o wybodaeth am gael gafael ar y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lifescienceshubwales.com.
Os oes gennych chi syniad neu brosiect arloesol yn barod a’ch bod yn chwilio am gymorth i gyflymu eich arloesedd, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ymholiad arloesi.