Mae ein cynnig i gefnogi diwydiant yn eang, ac mae’n dibynnu i raddau helaeth ar eich math o fusnes a’ch arbenigedd.
Mae’r cymorth pwrpasol rydym yn ei gynnig ar gael i bob cwmni sy’n awyddus i ymgysylltu â’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae enghreifftiau o’r hyn rydym yn ei wneud yn cynnwys:
- Adroddiadau a chipolwg ar wybodaeth am y farchnad
- Cyngor ar fewnfuddsoddi ac adleoli busnes
- Cefnogi achosion busnes
- Cyngor a gwybodaeth am gyllid
- Cymorth i ddatblygu cynigion
- Hwyluso ymgysylltu â GIG Cymru
- Cymorth prosiect sy’n ymwneud â’n blaenoriaethau allweddol – Deallusrwydd Artiffisial a Digidol (AI), Therapïau Uwch, Meddygaeth Fanwl a Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
- Cyfleoedd i gydweithio â busnesau o’r un anian, cefnogi digwyddiadau yn y diwydiant ac ymgysylltu â rhaglenni iechyd a gofal cymdeithasol
- Mynediad at ein hadnodd Cyflawni Arloesedd.
I gael rhagor o wybodaeth am gael gafael ar y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at hello@lifescienceshubwales.com. A fyddech cystal â rhoi cymaint o fanylion cychwynnol â phosibl i ni.
Os oes gennych chi syniad neu brosiect arloesol yn barod a’ch bod yn chwilio am gymorth i gyflymu eich arloesedd, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen ymholiad arloesi.