Gall cyflymu’r broses o ymgorffori arloesi mewn gwasanaethau iechyd a gofal helpu i gyflawni newid systematig, ac yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru rydym yn y sefyllfa orau i hybu’r gweithgarwch hwn.
Rydym yn gwrando ar anghenion ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn clywed yr heriau sy’n eu hwynebu ac yn gweithio â hwy i ddeall eu blaenoriaethau.
Mae gennym ddealltwriaeth o’r syniadau gorau a’r atebion arloesol o’r sector Gwyddorau Bywyd yn fyd-eang y gellid eu sianelu i helpu i ddiwallu anghenion a gofynion ein gwasanaethau iechyd a gofal.
Rydym yn gwahodd cwmnïau ac arloeswyr o bob cwr o Gymru, y DU ac yn fyd-eang, i weithio â ni yma yng Nghymru, i rannu eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u hatebion a’u cymhwyso’n effeithiol i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth am sut i ymuno â ni i wireddu ein gweledigaeth i weld Cymru’n gyrchfan o ddewis i arloesi mewn iechyd a llesiant, cysylltwch â hello@lshubwales.com
I wybod mwy am archebu ein cyfleusterau cynadledda, ystafelloedd cyfarfod a diodydd poeth, cysylltwch â reception@lshubwales.com
Cliciwch yma os oes gennych chi gyfrif cofrestredig i ddefnyddio ein system archebu ar-lein