Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu (Cari-Anne Quinn) yw cynnal gwefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a sicrhau ei chywirdeb; nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac felly nid yw'r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno'n wreiddiol ar y wefan.
Mae ein ffigurau diweddaraf yn dangos sut rydym yn cyflymu’r broses o fabwysiadu atebion arloesol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cynnull partneriaid i annog cydweithio, integreiddio darparu gwasanaethau, cyflymu mabwysiadu drwy ddarparu rhaglenni, ac adeiladu eiriolaeth ledled Cymru i gynhyrchu cyllid, dylanwadu ar yr ecosystem ehangach a dathlu llwyddiant.