Dychwelodd Hac Iechyd Cymru ar lwyfan rhithwir am y tro cyntaf. Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar yr heriau a wynebir gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Cynhaliwyd Hac Iechyd Cymru gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, M-Sparc, Awyr Las, Betsi Cadwaladwr, Prifysgol Bangor, Prifysgolion Santander, MediWales a Chomisiwn Bevan.
Cynhaliwyd y digwyddiad dros gyfnod o wythnos. Rhoddodd y diwrnod cyntaf gyfle i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol dynnu sylw at heriau a oedd yn eu hwynebu yn ystod y pandemig. Ar ôl i dimau ffurfio a gweithio ar atebion, roedd yr ail ddiwrnod yn llwyfan i banel o feirniaid ddysgu am yr atebion a gynigiwyd a dyfarnu cyllid a chefnogaeth.
Darllenwch fwy am sut y dychwelodd Hac Iechyd Cymru i helpu i sbarduno arloesedd a chefnogi ymateb Cymru i Covid-19.