,
-
,
Daeth y rhith ddigwyddiad cyntaf a gynhaliwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru â dros 150 o fusnesau at ei gilydd i fynd i’r afael â phedwar maes her allweddol y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd yn ystod Covid-19.

Yn dilyn anerchiad cychwynnol gan Brif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cari-Anne Quinn, rhannwyd yr alwad yn grwpiau i roi sylw i’r pedwar maes her allweddol:
- Dyfeisiau Meddygol
- Rheoli Haint
- Atebion Digidol
- Ynysu Cymdeithasol
Darllenwch fwy am sut y daeth y digwyddiad hwn â sefydliadau ynghyd sydd wedi ymrwymo i helpu i frwydro yn erbyn coronafeirws yng Nghymru.