Yn dilyn y sesiwn lwyddiannus ar sefyllfa’r ecosystem arloesi ledled Cymru ym maes iechyd a gofal ym mis Mehefin, rydym yn dod ag aelodau ynghyd unwaith eto i drafod gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth a’r broses o'i gaffael.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan Lywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a bydd yn rhoi cyflwyniad a chefndir i’r Cytundeb Cydweithio ar gyfer Iechyd a’r Diwydiant.
Byddwn yn clywed hefyd gan ATiC a Pocket Medic am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu am “Dementia - Can You See What I See?”

Mae’r cyfarfod Rhwydweithio hwn yn gyfle i aelodau wneud y canlynol:
Rhannu eich straeon am arferion arloesi a’r angen i helpu i greu darlun o arloesi a chyfle i gydweithio ledled y wlad
Dysgu am y rhaglenni a’r mentrau sydd ar gael yng Nghymru i helpu i roi syniadau ar waith.
Rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy Eventbrite. Archebwch eich lle yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch chi, cysylltwch â thîm digwyddiadau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar events@lshubwales.com