Bydd cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Arloesi ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei gynnal ar 14 Tachwedd 2019, ac rydyn ni’n awyddus i roi’r cyfle i chi i gyd rannu eich prosiectau, syniadau ac atebion.

Yn y bore, bydd aelodau o’r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael y cyfle i rannu rhai o’u prosiectau a’u syniadau sy’n cael eu harwain gan y galw - y Diwydiant, efallai y gallwch chi helpu!
Yn y prynhawn, bydd aelodau o’r diwydiant yn cael y cyfle i rannu rhai o’u hatebion, gwasanaethau a chynhyrchion arloesol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gallai’r rhain ein helpu o ddifrif i ddatrys ein heriau neu feddwl amdanynt mewn ffordd wahanol!
Agenda ddrafft:
09:00 - 09:30 Cofrestru
09:30 - 0945 Croeso
09:45 - 11:00 Cyflwyniad gan aelodau o’r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
11:00 - 11:30 EGWYL A RHWYDWEITHIO
11:30 - 12:30 Cyflwyniad gan aelodau o’r maes Iechyd a'r Diwydiant
12:30 - 13:30 CINIO
13:30 - 14:30 Cyflwyniadau gan aelodau o’r diwydiant
14:30 - 15:00 EGWYL A RHWYDWEITHIO
15:00 - 15:30 Cyflwyniadau gan aelodau o’r diwydiant
15:45 CLOI A RHWYDWEITHIO
DS: 15 munud i bob cyflwyniad!