Mae’r Grwpiau Diddordeb Arbennig yn datblygu cyfleoedd cydweithredol i gefnogi twf y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Drwy ddod â diwydiant, y GIG, y byd academaidd a sefydliadau partner eraill ynghyd er mwyn ysgogi newid yn y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei gyflenwi, mae gan y Grwpiau Diddordeb Arbennig y potensial i ddatblygu triniaethau gwellhaol ar gyfer amrediad o feysydd clefydau.
Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau
Sefydlwyd y Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau ei sefydlu yn 2016 er mwyn creu clwstwr Therapi Celloedd a Genynnau a Meddygaeth Aildyfu deinamig a llwyddiannus yng Nghymru. Mae’n cael ei arwain gan Wasanaeth Gwaed Cymru, rhanddeiliaid ac asiantaethau cyllido, gan gynnwys y Catapult Therapi Celloedd a Genynnau, Llywodraeth Cymru ac Innovate UK. Yn 2018 fe gefnogodd y Grŵp Diddordeb Arbennig Therapi Celloedd a Genynnau gonsortiwm iechyd, a dderbyniodd £7.3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sefydlu Canolfan Triniaeth Therapi Uwch Canolbarth Lloegr a Chymru (MW-ATTC), a fydd yn hwyluso’r gwaith o fabwysiadu therapïau celloedd a genynnau trawsnewidiol yn y DU.
Priodolir llwyddiant y Grŵp Diddordeb Arbennig Celloedd a Genynnau i ffocws y grŵp ar gyflenwi. Wedi’i gadeirio gan Wasanaeth Gwaed Cymru a’i drefnu gennym ni, mae’r grŵp hwn yn cefnogi blaenoriaethau GIG Cymru drwy:
- cefnogi datblygiad strategaeth therapi Celloedd a Genynnau i Gymru
- sicrhau cyllid gan Innovate UK i sefydlu canolfan driniaeth Celloedd a Genynnau ranbarthol
- annog cydweithrediad er mwyn adnabod datrysiadau i heriau a rennir.
I wybod mwy am ein Grwpiau Diddordeb Arbennig, cysylltwch ag Andrew Sutherland, ein Swyddog Gweithredol Datblygu Cynigion, trwy e-bostio andrew.sutherland@lshubwales.com