Mae Cyflawni Arloesedd yn adnodd newydd a ddatblygwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i lywio ac arwain y rheini sy’n gweithio ar arloesi ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol a diwydiant. Mae’n crynhoi ymchwil allweddol, yn rhoi cipolwg beirniadol ac yn cyflwyno safbwyntiau ffres gan arweinwyr agweddau ar draws sectorau.

Mae’r adnodd digidol newydd hwn yn adolygu’r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael am arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhoi’r wybodaeth fwyaf perthnasol a phwysig i’r rheini sydd ei hangen. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithio’n agos gyda chyfranwyr ar draws meysydd iechyd, diwydiant, academia a gofal cymdeithasol, gan ddarparu mewnbwn.
Mae llawer o randdeiliaid yn credu bod arloesi yn hanfodol ar gyfer sbarduno newid ar draws y system a gwneud gwahaniaeth i gleifion a phobl. Mewn arolwg diweddar a gomisiynwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer Beaufort Research, gwelwyd bod 97% ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystyried bod arloesi yn bwysig iawn, ynghyd â 91% o ddiwydiant.
Ond, gall rhwystrau wneud arloesi’n anoddach, gan gynnwys diffyg iaith gyffredin, adnoddau, ac ymgysylltu ar draws sectorau. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi creu’r adnodd Cyflawni Arloesedd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan ddod o hyd i ddatrysiadau ac atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu i lywio’r ecosystem arloesi a diogelu ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol at y dyfodol.
Bydd yr adnodd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda deunydd newydd, ac yn cael ei lansio gydag:
- adolygiad o lenyddiaeth gyfredol ar arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol– sy’n
- crynhoi hyn i ddarparu 14 o themâu allweddol mewn dogfen hawdd ei darllen sy’n hwylus i bawb,
- adolygiad polisi sy’n edrych ar bolisïau’r llywodraeth sy’n effeithio ar sefyllfa arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru,
- cyfeiriadur sy’n rhestru’r holl sefydliadau a’u gwasanaethau ledled Cymru sy’n gallu cefnogi arloesi, a
- chyfres o flogiau gan arweinwyr agweddau ar draws meysydd diwydiant, iechyd a gofal
- cymdeithasol.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Gall yr adnodd newydd hwn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu rhanddeiliaid o bob cefndir i lywio drwy ecosystemau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a thu hwnt. Mae arloeswyr yn allweddol i drawsnewid iechyd, gofal a lles ar raddfa fawr yng Nghymru a bydd yr adnodd hwn yn eu helpu i gyflawni hyn.”
Yn ôl Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae arloesi'n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gyflwyno syniadau a thechnolegau newydd mewn partneriaeth â diwydiant. Rwy'n croesawu adnodd 'Cyflawni Arloesedd' newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel arf allweddol i arloeswyr sy'n gweithio i oresgyn heriau go iawn a manteisio ar gyfleoedd newydd cyffrous. Pan wnaethom sefydlu ac ariannu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, roedd arloesi wrth wraidd ei ethos - mae'r ethos hwn wedi chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad a'n hymateb i effaith Covid-19.”
Yn ôl Dr. Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol ym maes Meddygaeth Gofal Critigol, Anadlol ac Acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor:
"Roeddwn yn falch iawn o gyfrannu at yr adnodd Cyflawni Arloesedd trwy archwilio pwysigrwydd gwneud arloesi yn arfer bob dydd.
Yn yr amser hwn o bwysau eithriadol ar ein gallu i ddarparu gofal o safon mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu talent a syniadau o bob man. Dylai'r adnodd newydd hwn rymuso arloeswyr amlddisgyblaethol o gefndiroedd diwydiant a gofal iechyd gyda'r wybodaeth, y cyd-destun a'r iaith sy'n ofynnol."
Yn ôl Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:
“Rydym yn croesawu’r adnodd newydd Cyflawni Arloesedd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan ein bod wedi gweld effaith arloesi a thrawsnewid gwasanaethau mewn ymateb i bandemig Covid-19. Mae’r adnodd yn cefnogi dealltwriaeth ddyfnach o arloesedd ac yn ategu ein hadroddiad aml-asiantaeth a baratowyd gan Brifysgol Abertawe, Adroddiad Astudiaeth Arloesi a Thrawsnewid COVID-19 GIG Cymru, sy’n defnyddio sylfaen dystiolaeth helaeth o brofiadau staff o bob rhan o GIG Cymru, gan edrych ar pam a sut maent yn arloesi, ac edrych ar argymhellion ymarferol i ddatblygu’r agenda hon ymhellach.
Wrth i ni ddechrau’r broses adfer, mae’n hanfodol ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i wella’r gwasanaethau a ddarperir, effeithlonrwydd, canlyniadau i gleifion, lles staff, ac annog diwylliant o ddysgu a rhannu arferion gorau ar draws ffiniau sefydliadol.”
Daw’r adnodd ar adeg gyffrous ar gyfer arloesi yng Nghymru, gyda lansio’r Academïau Dysgu Dwys yn gynharach yn 2021. Y cyntaf o’u math yn y byd, mae’r academïau hyn sydd gyda’r gorau yn y byd yn darparu cyrsiau dysgu sy’n canolbwyntio ar arloesi, yn ogystal ag ymchwil a gwasanaethau ymgynghori pwrpasol, gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi partneriaid perthnasol.
Os hoffech chi archwilio’r adnodd Cyflawni Arloesedd, ewch i: https://lshubwales.com/cy/Adnodd-Cyflawni-Arloesedd