Cyflwyniad

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (yr Hwb) wedi ymrwymo’n gryf i ddiogelu data personol. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio’r canlynol:

  • Pwy ydym ni
  • Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
  • Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom a sut rydym yn ei defnyddio
  • Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol
  • Pryd fyddwn ni’n rhannu data personol
  • Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol
  • Sut rydym yn diogelu data personol
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw data personol
  • Eich hawliau mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu eich caniatâd yn ôl
  • Defnyddio dulliau awtomataidd o wneud penderfyniadau a phroffilio
  • Sut mae cysylltu â ni, gan gynnwys sut i gwyno wrth awdurdod goruchwylio
  • Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill
  • Dolenni i wefannau eraill a chyswllt trydydd parti
  • Sut a phryd rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd

Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus. Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch ein harferion preifatrwydd. Mae ein manylion cyswllt ar ein gwefan ac maent wedi’u cynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn hefyd.

Pwy ydym ni

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Gwmni Cyfyngedig (08719645) sy’n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru.  Rydym yn gweithredu fel Rheolydd Data a Phrosesydd Data o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Rheolydd Data – cesglir data i’n galluogi i gynnal busnes arferol fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
  • Prosesydd Data – cesglir data fel rhan o’r Rhaglen Cyflymu lle mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi’i dynodi’n Rheolydd Data 

Cysylltwch a ni naill ai dros y ffôn ar 029 2046 7030 (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg) neu drwy anfon e-bost i FOI@lshubwales.com.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Pan fyddwn yn sôn am ddata personol neu wybodaeth bersonol, dim ond at wybodaeth y gellir adnabod person unigol ohoni yr ydym yn cyfeirio.  Nid yw’n cynnwys data lle mae’r manylion adnabod wedi’u dileu.  

Mae ein gweithgareddau ymgysylltu ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, yn hanfodol i’n llwyddiant. Rydym yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth gyda phartneriaid strategol allweddol ar draws y sector iechyd a gofal, y diwydiant gwyddorau bywyd, y byd academaidd, gwasanaethau proffesiynol a mentrau a phrosiectau eraill a ariennir. Mae hyn yn cynnwys y categorïau gwybodaeth canlynol:

  • Data adnabod sy’n cynnwys eich enw, dyddiad geni, rhif pasbort, rhif trwydded gyrru cerdyn-llun, buddiannau busnes a rhywedd
  • Data ariannol gan gynnwys cyfeiriad bilio, manylion cyfrif, manylion deiliad cyfrif banc a manylion cerdyn banc
  • Data cyswllt (cyfeiriad e-bost, rhif ffôn) 
  • Data Marchnata a Chyfathrebu – dewisiadau ar gyfer derbyn deunydd marchnata
  • Categorïau data arbennig fel rhan o’n prosesau recriwtio a all gynnwys:
  1. Hil neu Darddiad Ethnig a gyflenwyd yn wirfoddol yn ystod y broses recriwtio
  2. Datgan troseddau yn ystod y broses recriwtio o dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr fel rhan o’n dyletswydd i ddilyn Safonau Diogelwch Personél Sylfaenol (BPSS) Llywodraeth EM
  3. Gall categorïau data arbennig fel rhan o’n rhaglen traws sector gyda Academi’r Gwyddorau Meddygol gynnwys:

    • Rhanbarth a phreswyliaeth, symudedd cymdeithasol, oedran a rhyw, ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol, anabledd, cyfrifoldebau gofalu, hil, crefydd/cred.

I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’n cynnwys gwybodaeth bersonol a gasglwyd o ganlyniad i’r canlynol:

  • Data a gedwir ar gyfer cyflwyno’r Rhaglen Cyflymu
  • Data a gedwir ar gyfer cyflwyno Rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru
  • Data a gyflwynir fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Cynigion
  • Rhaglen traws sector gyda Academi’r Gwyddorau Meddygol
  • Os ydych chi’n cysylltu â ni
  • Os ydych chi’n dod i ddigwyddiad a drefnir gennym ni, naill ai’n allanol neu yn ein lleoliad
  • Os ydych chi’n rhanddeiliad neu’n aelod o grŵp buddiant arbennig
  • Os ydych chi’n gwneud cais am swydd gyda ni
  • Os ydych chi’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i ni
  • Os ydych chi’n trefnu digwyddiad neu gyfarfod yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
  • Os ydych chi wedi ymrwymo i gytundeb i ddefnyddio gofod swyddfa yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
  • Pob math o gyfathrebu â ni, gan gynnwys e-bost, cyfryngau cymdeithasol, cyfathrebu ar lafar a dros y ffôn

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth, pam mae ei hangen arnom a sut rydym yn ei defnyddio 

Pan fyddwch yn cysylltu â ni ynghylch y gwaith rydym yn ei wneud, byddwn yn trin eich data yn gwbl ofalus a byddwn yn sensitif i’r ffaith bod angen trin yr holl ddata yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw.

Mae’r dull casglu yn amrywio ond yn cynnwys ac nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:

  • Gwybodaeth a gesglir drwy e-bost neu gyswllt ysgrifenedig
  • Gwybodaeth a gesglir drwy gyswllt dros y ffôn 
  • Gwybodaeth a gesglir drwy lenwi ffurflen ar-lein ar ein gwefan, neu drwy blatfform trydydd parti ee Eventbrite
  • Gwybodaeth a gesglir ar lafar neu’n ysgrifenedig mewn digwyddiadau a gynhelir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru neu eraill neu mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath 
  • Gwybodaeth a gesglir i gefnogi prosiectau, rhaglenni a grwpiau buddiant arbennig  
  • Gwybodaeth a gesglir drwy gyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook, Twitter, YouTube, Sprout Social a Linked In 
  • Gwybodaeth a ddarperir gan drydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus, e.e. Tŷ’r Cwmnïau, Credit Safe fel rhan o’n harchwiliadau diwydrwydd dyladwy

Mae cymorth busnes a noddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn golygu casglu a chadw gwybodaeth am bartneriaid Cyflymu. Mae’r gofyniad i gadw data o’r fath yn cael ei reoli dan drefniadau cytundebol gan Lywodraeth Cymru a WEFO. O dan yr amgylchiadau hyn lle’r ydym yn gweithredu fel prosesyddion ar gyfer yr wybodaeth, dim ond fel y cyfarwyddir gan y partïon y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth.  

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, ein cylch gwaith i ddarparu gwybodaeth i fodloni gofynion archwilio mewnol ac allanol a’n rhwymedigaethau cyfreithiol (e.e. atal twyll).

Defnyddio dulliau awtomataidd o wneud penderfyniadau a phroffilio

Fel rhan o’i weithgarwch busnes o ddydd i ddydd, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn defnyddio dulliau cyfrifiadurol awtomataidd o wneud penderfyniadau a phroffilio i gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys yr archwiliadau sy’n ofynnol gan Reoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgwyr a Throsglwyddo Arian (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 (“Rheoliadau Newydd”). Byddwn bob amser yn gofyn am ganiatâd gennych chi cyn cynnal yr archwiliadau hyn. 

Nid yw’r Hwb yn gwneud gwaith proffilio marchnata, ond mae’n defnyddio hysbysebion wedi’u targedu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r hysbysebion hyn yn seiliedig ar weithgarwch yr unigolyn a’i nodweddion (oedran, rhywedd, diddordebau a’i gapasiti proffesiynol) drwy ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook, Twitter, Sprout Social, LinkedIn a YouTube). 

Defnyddio Cwcis a thechnolegau eraill

Mae’r Hysbysiad hwn yn nodi sut rydym yn defnyddio cwcis ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a pham ein bod yn gwneud hynny. Mae hefyd yn cynnig adnoddau a fydd yn caniatáu i chi wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i’n defnydd o gwcis, felly rydym yn argymell eich bod yn darllen yr wybodaeth isod. Bydd y polisi cwcis hwn yn newid o bryd i’w gilydd, felly darllenwch ef yn rheolaidd.

Mae cwci yn ffeil fach o lythrennau a rhifau sydd yn aml yn cynnwys dynodwr dienw, unigryw. Mae hyn yn golygu y gellir ei ddefnyddio i’ch adnabod chi heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan, bydd yn gofyn am ganiatâd i storio cwci yn adran cwcis eich gyriant caled. Mae cwcis yn cael eu defnyddio’n aml ar y rhyngrwyd i wneud i wefannau weithio, i wneud iddynt weithio’n fwy effeithlon, neu i ddarparu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan i berchennog y wefan neu drydydd partïon eraill. Er enghraifft, os ydych chi’n ychwanegu eitemau i fasged siopa, bydd cwci yn caniatáu i’r wefan gofio pa eitemau rydych chi’n eu prynu, neu os ydych chi’n mewngofnodi i wefan, bydd cwci yn eich adnabod yn nes ymlaen fel na fydd rhaid i chi roi eich cyfrinair eto.

Sut ydym ni’n defnyddio cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio.  Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sydd wedi’u gosod gan Google Analytics i adolygu swyddogaethau ein safle. 

Cwcis trydydd parti

Mae cwcis trydydd parti yn gwcis sy’n gysylltiedig â pharthau neu wefannau gwahanol i’r rhai rydych chi’n ymweld â nhw. Er enghraifft, ar y wefan hon, rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti sydd wedi eu creu gan Google er mwyn dadansoddi defnydd o’r wefan, ond gan nad yw ein gwefan ar barth Google, mae hyn yn gwneud eu cwcis yn gwcis “trydydd parti”. Bydd cwcis Google Analytics yn adnabod pobl sy’n ymweld â’n gwefan ac yn eu cyfrif, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall fel am ba hyd mae ymwelwyr yn aros, i ble maen nhw’n mynd ar ein gwefan, a pha dudalennau sy’n cael y nifer fwyaf o ymweliadau. Nid oes gennym reolaeth uniongyrchol dros y ffordd mae cwcis Google yn ymddwyn.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

Mae gennym bob amser sail gyfreithiol dros brosesu data personol, ac mae’r sail gyfreithiol a ddefnyddiwn fel a ganlyn:

  • Lle bo angen prosesu ar gyfer cyflawni contract y mae gwrthrych y data wedi ymrwymo iddo; neu 
  • Lle bo gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol; neu
  • Lle bo angen prosesu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol rydym yn ddarostyngedig iddi; neu
  • Lle bo angen prosesu er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu berson naturiol arall; neu
  • Lle bo angen prosesu er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd gennym ni (y rheolydd); neu
  • Lle bo angen prosesu at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gennym ni neu gan drydydd parti, ac eithrio pan fydd buddiannau neu hawliau a rhyddid sylfaenol gwrthrych y data yn drech na buddiannau o’r fath, sy’n gofyn am ddiogelu data personol 

Er mwyn defnyddio’r chwe sail gyfreithiol a ddefnyddiwn i brosesu data personol mewn cyd-destun, byddwn yn defnyddio’r data personol a’r wybodaeth a gasglwn at y dibenion canlynol:

  • Ymateb i unrhyw ymholiad a wnewch a rhoi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau a ddarparwn
  • Cyflawni ar unrhyw un o’n rhaglenni a gwasanaethau eraill a gynigiwn
  • Gwneud taliad i chi gan gynnwys trosglwyddo arian ar ôl cwblhau trafodiad yr ydych wedi darparu gwasanaethau ar ei gyfer
  • Rheoli ein perthynas â chi
  • Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau rheoleiddiol a chyfreithiol
  • Cynnal archwiliadau credyd ac unrhyw archwiliadau sy’n angenrheidiol yn ein barn ni i gadarnhau pwy ydych chi
  • Delio ag unrhyw adborth gan gleientiaid neu gŵyn y gallech ei gwneud
  • Gweinyddu, datblygu a gwella ein busnes
  • Diogelu ein busnes e.e. pe bai angen cychwyn camau adennill dyledion neu amddiffyn unrhyw hawliad cyfreithiol
  • Gwneud awgrymiadau ac argymhellion i chi ynghylch y gwasanaethau a ddarparwn ac a allai fod o ddiddordeb i chi
  • Eich gwahodd i unrhyw ddigwyddiadau lletygarwch neu rwydweithio (yn gorfforol ac ar-lein) sydd gennym, neu y gallwn fod yn barti iddynt ac a allai fod o ddiddordeb i chi
  • Hwyluso cyflwyno partner i gyswllt busnes lle mae angen gwasanaethau’r cyswllt busnes perthnasol ar y partner. 

Rhaid i ni gael rheswm cyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.  Fel arfer, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle bydd angen i ni gyflwyno’r rhaglen neu gyflawni’r contract ar gyfer gwasanaethau rydym ar fin ymrwymo iddynt neu rydym wedi ymrwymo iddynt gyda chi
  • Lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a’ch hawliau sylfaenol chi yn drech na’r buddiannau hynny
  • Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol
  • Lle rydych chi wedi rhoi eich caniatâd i brosesu eich gwybodaeth bersonol

Dim ond at y dibenion y gwnaethom ei chasglu y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, oni bai ein bod yn credu’n rhesymol bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol. Dim ond am gyn hired â bod rheswm dilys dros wneud hynny y caiff gwybodaeth nad oes ei hangen mwyach ei dinistrio yn y fath fodd fel na ellir ei hail-lunio. Os hoffech gael esboniad ynghylch sut mae’r prosesu ar gyfer y diben newydd yn gydnaws â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni.  

Pryd fyddwn ni’n rhannu data personol?

Datgelu Gwybodaeth at ddibenion cyfreithiol neu reoleiddiol

Efallai y bydd angen i ni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti fel rhan o ofynion archwilio a rheoli rhaglenni parhaus.  

Hefyd, fel rhan o’n cylch gwaith i gynnal diwydrwydd dyladwy, efallai y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth er mwyn bwrw ymlaen ag archwiliadau llywodraethu ar gyfer gofynion penodol, rhaglenni, partïon eraill (neu brosiectau. Byddwn yn cyflawni’r broses hon yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn ddiogel).  

Mae trydydd partïon yn cynnwys:

  • Cynghorwyr allanol ac ymgynghorwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu rhaglenni/prosiectau (sylwer bod pob cynghorydd/ymgynghorydd yn rhwym wrth ofynion cyfrinachedd yn eu contractau);
  • Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd;
  • Llywodraeth Cymru; a
  • Sefydliadau sy’n darparu cyllid a/neu gefnogaeth ar gyfer arloesi
  • Ein cynghorwyr proffesiynol e.e. cyfreithwyr, bancwyr, cyfrifwyr
  • Darparwyr gwasanaethau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol a chymorth i ni
  • Cyllid a Thollau EM

Byddwn yn sicrhau, os bydd angen rhannu gwybodaeth, y bydd yn cael ei rhannu’n ddiogel, a byddwch yn cael gwybod ein bod wedi ei rhannu, gyda phwy rydym wedi’i rhannu a sut rydym wedi’i rhannu.  

Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol?

Mae data Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cael ei storio yn Microsoft 365, Mailchimp, Eventbrite, Zoom, Cloudbooking, adnodd cymorth ariannol Xero ac ApprovalMax, Porth Ar-lein Simply Do, System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a meddalwedd rheoli prosiectau Wrike. Rydym yn cynnal adolygiadau diogelwch rheolaidd o’n holl lwyfannau trydydd parti ac yn cynnal asesiadau risg fel sy’n ofynnol o dan Erthygl 35 o GDPR yr UE a Phennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (GDPR y DU) er mwyn cydymffurfio â’n dyletswydd fel Rheolydd Data. Mae’r systemau a nodir yn systemau trydydd parti nad ydynt wedi cael eu creu gennym ni ac nad ydynt yn eiddo i ni ac sydd y tu hwnt i’n rheolaeth gyda’u polisïau preifatrwydd eu hunain.  Cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data i gael rhagor o wybodaeth os ydych chi eisiau deall sut mae eich data’n cael ei brosesu gan y llwyfan perthnasol.   

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn rhoi ei weithgareddau Adnoddau Dynol allan ar gontract i drydydd parti. Y contractwr presennol yw EST-HR. Nid yw EST-HR yn trosglwyddo data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae modd darparu’r Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer EST-HR ar ôl gwneud cais i’n Swyddog Diogelu Data.

Sut rydym yn diogelu data personol?

Mae gennym ni fesurau diogelu priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, ei defnyddio neu rhag caniatáu i rywun gael gafael arni heb awdurdod neu rhag cael ei defnyddio neu ei datgelu mewn ffordd arall.  

I gyflawni hyn, rydym yn defnyddio technoleg ddiogel wedi’i hamgryptio i ddiogelu’r holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei storio gennym ni.  Rydym yn gweithredu polisïau cyfredol ar gyfer Diogelu Data, Polisi Cyfrineiriau, Diogelwch Gwybodaeth a Pharhad Busnes (gan gynnwys Asesiadau Risg drwy broses DPIA ac asesiadau risg unigol) ac yn eu hadolygu’n rheolaidd i gefnogi ein prosesau busnes ac i sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu data.

Caniateir mynediad at wybodaeth ar sail gwybodaeth angenrheidiol yn unig.   

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Dim ond cyhyd ag y bo gofyniad cytundebol neu fusnes i wneud hynny y byddwn yn cadw ac yn prosesu data personol, neu fod yn rhaid i ni gadw’r un data o dan unrhyw ofyniad cytundebol, rheoleiddiol neu gyfreithiol. Unwaith y bydd y gofyniad wedi dod i ben, bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu’n ddiogel o’n systemau mewn ffordd sy’n sicrhau bod gwybodaeth sy’n cael ei dileu yn cael ei dileu yn unol â’r rheoliadau diogelwch presennol.  

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni

Fel rhan o’n cyfrifoldeb i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gyfredol, rydym yn dibynnu arnoch chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni. Pan fydd eich manylion yn newid, gofynnwn i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion yn unol â hynny.

Eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â data personol, gan gynnwys eich hawliau i dynnu eich caniatâd yn ôl

Fel gwrthrych data, mae gennych chi hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sef:

  • Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol. 
  • Mae gennych hawl i wybodaeth anghywir a gedwir amdanoch gael ei chywiro
  • Mae gennych hawl i wybodaeth nad ydych yn dymuno i ni ei chadw mwyach gael ei dileu (a elwir hefyd yn hawl i gael ei hanghofio)
  • Mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth 
  • Mae gennych hawl i gludadwyedd data – er mwyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chludo mewn fformat strwythuredig, hawdd ei adnabod sy’n cael ei ddefnyddio’n aml 
  • Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol 
  • Mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy’n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol sy’n ymwneud â chi neu sy’n effeithio’n sylweddol arnoch chi.  

Fel gwrthrych, mae gennych hefyd yr hawl i wneud Cais i Weld Gwybodaeth. Fel rhan o’r broses hon, byddwch yn gallu canfod

  • A yw eich data yn cael ei brosesu ai peidio, ac os felly, pam
  • Categorïau’r data personol dan sylw
  • Ffynhonnell y data os nad chi wnaeth ddarparu’r data gwreiddiol
  • I bwy y gellir datgelu eich data, gan gynnwys y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r mesurau diogelu sy’n berthnasol i drosglwyddiadau o’r fath

Rydym yn cadw’r hawl i gadarnhau pwy ydych chi cyn rhyddhau gwybodaeth. 

Ni fyddwn yn codi unrhyw dâl am geisiadau o’r fath, oni bai fod y ceisiadau’n cael eu gwneud dro ar ôl tro a’u bod yn cael eu hystyried yn ormodol.  Byddwn yn ymateb i’ch cais cyn pen 28 diwrnod gwaith.   

Rydym yn darparu ffurflen i chi ei llenwi. Byddwn yn ei defnyddio i sicrhau bod eich hawliau’n cael sylw llawn.  

Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i’r Hwb brosesu unrhyw ran o’ch data, mae gennych chi hefyd hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl oni bai ein bod yn rhwym o dan gontract neu gyfraith i gadw’r data. Bydd tynnu caniatâd yn ôl hefyd yn arwain at dynnu cefnogaeth yn ôl o wasanaethau neu raglenni Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru rydych chi wedi ymrwymo iddynt. Mewn achosion lle nad oes angen i ni gadw data am resymau cytundebol neu gyfreithiol, byddwn yn dileu’r data cyn gynted â phosibl ac o leiaf cyn pen 28 diwrnod.   

Dolenni i wefannau eraill a chyswllt trydydd parti

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn darparu dolenni i safleoedd ac adnoddau allanol fel rhan o’n gweithgarwch busnes arferol. Mae hyn yn cynnwys straeon newyddion a dolenni i wefannau eraill fel rhan o’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar ein gwefan (e.e. straeon am gynhyrchion iechyd wedi’u cefnogi gan wybodaeth ffeithiol ategol gan Lywodraeth Cymru). Gall defnyddio’r dolenni hynny ganiatáu i drydydd partïon gasglu neu rannu eich gwybodaeth bersonol.  Gan nad oes gennym unrhyw reolaeth dros sut gall trydydd partïon o’r fath gasglu a rhannu eich gwybodaeth, nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros eu defnydd o’ch gwybodaeth.   

Sut mae cysylltu â ni, gan gynnwys sut i gwyno wrth awdurdod goruchwylio

Gallwch gysylltu â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy nifer o wahanol lwybrau.  Byddwn yn delio â’ch ymholiad yn yr un ffordd, ni waeth sut rydych chi’n dewis cysylltu â ni. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn prosesu eich data, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig yn:

Swyddog Diogelu Data

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

3 Sgwâr y Cynulliad

Caerdydd, CF10 4PL

neu anfonwch e-bost i FOI@lshubwales.com.  

Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd mae eich data personol wedi cael ei brosesu a’ch bod am wneud cwyn, gwnewch hynny drwy ddefnyddio un o’r dulliau a ddisgrifir uchod. Byddwn yn ymdrin â’ch cwyn mewn modd sensitif a chyfrinachol ac yn ysgrifennu atoch gydag ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. 

Os nad ydych chi’n fodlon, mae gennych hawl i gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: 

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF 

www.ico.org.uk

Byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn gadael i ni geisio datrys y mater yn gyntaf cyn ei gyfeirio at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Adolygu’r Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd. Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar ein dogfennau a’n tudalennau gwe. Cafodd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ei adolygu a’i ddiwygio ddiwethaf ar 4 Hydref 2022.