Cynhelir Cyflymu Arloesi Clinigol gan Brifysgol Caerdydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae Cyflymu Arloesi Clinigol yn elwa ar ei bartneriaethau hirsefydlog â’r byrddau iechyd rhanbarthol a’r ymddiriedolaethau, gan weithio gyda’r diwydiant a sefydliadau preifat a chyhoeddus eraill i gyflymu’r gwaith o drosi arloesi clinigol.