Gwybodaeth am y rôl

Rydyn ni'n chwilio am reolwr prosiect profiadol i ymuno â'n tîm EIDC yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae’r Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn bartneriaeth rhwng yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac mae'n cael ei ariannu gan raglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Llywodraeth Cymru.

Mae'r rôl yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau sy'n dod â'r diwydiant, y GIG a'r byd academaidd ynghyd i gyflymu'r broses o fabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol. Bydd rheolwr y prosiect EIDC yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y sector er mwyn deall anghenion heb eu diwallu, nodi atebion ymarferol a dod â'r holl randdeiliaid a'r penderfynwyr perthnasol at ei gilydd i wneud newidiadau.

Fel rôl newydd, bydd y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau penodol yn datblygu'n organig yn y tymor byr. Bydd y Rheolwr Rhaglen, EIDC a deiliad y swydd yn cytuno ar swydd-ddisgrifiad terfynol ar adeg briodol. Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad llawn.Buddion

Buddion

  • Amgylchedd gwaith a thîm gwych
  • Gwyliau hael – 30 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau cyhoeddus
  • Wythnos 37.5 awr ar gyfer holl aelodau amser llawn y tîm
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a gofal llygaid
  • Parcio car (yn ôl disgresiwn)
  • Oriau Hyblyg
  • Pensiwn

Sut i wneud cais

I wneud cais, anfonwch CV cynhwysfawr ymlaen gyda chymwysterau addysgol a phroffesiynol, hanes cyflogaeth llawn a chyflog cyfredol, yn ogystal â datganiad ategol.

Ni ddylai'r datganiad ategol fod yn fwy na dwy ochr A4. Darparwch dystiolaeth yn y datganiad o'ch addasrwydd yn erbyn y meini prawf yn y fanyleb person, esboniwch pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a ble y gwelsoch y swydd yn cael ei hysbysebu.

Dylid cyflwyno ceisiadau i careers@LShubwales.com.

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00, dydd Gwener 26 Mehefin 2020
  • Dyddiad yr asesiad: Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2020

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gwelwch y swydd ddisgrifiad llawn isod: