Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn galw ar gwmnïau ac arloeswyr o bob cwr o'r wlad i ymuno â'r frwydr yn erbyn coronafeirws.

staff nurse

Rydym yn arwain ymdrechion y diwydiant i frwydro yn erbyn COVID-19 drwy lansio ymgyrch ledled y wlad i gael cwmnïau o amrywiaeth o sectorau i weithio gyda'i gilydd ar ddatrysiadau.

Ein cenhadaeth yw cyflymu'r broses o ddatblygu cynhyrchion a thriniaethau sydd eu hangen ar frys, fel awyryddion, diheintydd dwylo ac offer diogelu personol i leddfu'r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd a helpu i amddiffyn staff rheng flaen rhag brwydro yn erbyn yr achosion

Nodwyd pedwar maes allweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy ar frys i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd yn ystod yr achos:

  • Dyfeisiau meddygol
  • Rheoli heintiau
  • Atebion digidol
  • Arwahanrwydd cymdeithasol

Wrth i achosion COVID-19 barhau i godi, ac wrth i nifer cynyddol o gleifion orfod mynd i'r ysbyty, mae cynyddu'r gweithgynhyrchu a'r dyfeisiau meddygol sydd ar gael megis peiriannau awyru, monitorau ocsigen ac offer profi pwynt gofal yn brif flaenoriaeth.

Mae sicrhau bod gan staff meddygol fynediad at gynhyrchion diheintio dwylo, yn ogystal â PPE (cyfarpar diogelu personol) priodol gan gynnwys masgiau wyneb, diogelwch llygaid, gynau, gorchuddion esgid a menig tafladwy-sydd i gyd yn profi prinder ar hyn o bryd-yn hanfodol er mwyn lleihau lledaeniad heintiau.

Bydd mabwysiadu technoleg ddigidol yn gyflym hefyd yn hanfodol i leddfu'r pwysau ar y GIG, gan atal arwahanrwydd cymdeithasol ymysg cymunedau sy'n heneiddio a chysylltu unigolion â gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol tra byddant yn ynysu. Ymhlith yr atebion sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd mae ymgynghoriadau fideo gyda meddygon teulu, atebion gweithio o gartref i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a systemau gwybodaeth artiffisial i reoli galwadau i mewn i wasanaethau iechyd.

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn a dod â chynhyrchion a gwasanaethau i'r rheng flaen yn gyflym, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda busnesau o amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, bwyd a diod, TG a gofal iechyd. Drwy weithio gyda'i gilydd, maent yn ymchwilio i'r ffordd y gallant gynhyrchu, ail-lunio cynnyrch presennol a defnyddio eu harbenigedd a'u gallu i ddelio â'r argyfwng.

Mae'r gwaith hwn eisoes wedi gweld busnesau mewn partneriaeth er mwyn cynhyrchu mwy a dod â chynnyrch y mae mawr ei angen i’r farchnad yn gyflym, distyllfeydd yn newid eu gweithgareddau i greu glanwaith golchi dwylo, a gweithgynhyrchwyr yn ymrwymo eu llinellau cynhyrchu i ymgynnull offer y mae wir angen amdano.

Wythnos diwethaf, cynhaliodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gynhadledd rithwir fawr ar draws y diwydiant a welodd dros 200 o gyfranogwyr o 150 o sefydliadau yn dod at ei gilydd i drafod ffyrdd posibl o gydweithio i fynd i'r afael â COVID-19 yn unol â'r pedair her.

Ymunodd prif enwau'r diwydiant o bob rhan o'r byd â'r alwad gan gynnwys GE HealthcareAmazon Web Services a Siemens Healthineers. Nodwyd nifer o brosiectau allweddol a bydd mwy o wybodaeth am y rhain ar gael yn y dyddiau nesaf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae bod yn arloesol yn mynd i fod yn gwbl hanfodol wrth ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â coronafeirws. 

"Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth drwy ddod â'r diwydiant, GIG a gofal cymdeithasol ynghyd i gyflymu'r broses o ddatblygu atebion a all achub bywydau. Rwy'n annog pob busnes ac unigolyn sy'n meddwl y gallant wneud gwahaniaeth go iawn i gysylltu."

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Rydym yma i helpu i uno diwydiant a chael cynhyrchion, gwasanaethau a chyflenwadau y mae eu mawr angen lle mae eu hangen i helpu i ddiogelu pobl a bywydau diogel.

"Os ydych yn fusnes neu'n unigolyn ac yn meddwl y gallwch helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19, rydym am glywed gennych. Cysylltwch â'r tîm yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a gallwn eich helpu i'n helpu ni i gyd drwy eich cysylltu â phobl a busnesau a all eich cynorthwyo i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yng Nghymru a thu hwnt."

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru bellach yn chwilio am gwmnïau ac arbenigwyr a allai gefnogi ymdrechion o fewn unrhyw un o'r pedwar maes her i gysylltu drwy e-bost.

Dylai unrhyw gwmnïau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan anfon e-bost i'w cynnig o gymorth a manylion eu hargaeledd a'u gallu i: gwybodaeth@hwbgbcymru.com