Third party
,
-
,
Online / BT - 1 Braham Street, London E1 8EE

Bydd y symposiwm yn denu gweithwyr o gyfadran MIT, arweinwyr y diwydiant a rhanddeiliaid y llywodraeth i edrych yn fanylach ar y technolegau sy’n sbarduno newid, a gweld sut gall unigolion, sefydliadau, a gwledydd ymateb i’r newid gyda bwriad a gwydnwch.

A lecture room full of people

Ar drothwy cyfnod o drawsnewidiad technolegol, economaidd a chymdeithasol sylweddol, mae’r newidiadau hyn yn cael eu harwain gan ddau rym rhyngberthnasol sy’n peri risg ac addewid.

Mae’r cynnydd mewn defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn ogystal â'r berthynas newydd â gwybodaeth yn cynnig offer pwerus ar gyfer creadigrwydd, cynhyrchiant a llesiant - mae pobl wedi dychmygu technoleg â galluoedd o’r fath ers tro byd, ac maent yn ein cyrraedd ar gyflymder ar hyn o bryd. Ar yr un pryd, rydym yn wynebu heriau rhyngwladol a domestig cynyddol, gan gynnwys tensiynau geowleidyddol, tarfu ar gadwyni cyflenwi, newidiadau demograffig ac effeithiau cynyddol newid hinsawdd.

Bydd y grymoedd hyn yn siapio pob rhan o’n cymdeithas, gan gynnwys diogelwch gwladol, ein gallu i gystadlu ar lefel economaidd, creadigrwydd personol a sgiliau'r gweithlu. Bydd hyn yn effeithio ar bob diwydiant, o fyd addysg i ynni, cyllid a’r cyfryngau.

Sut gallwn ni ffynnu yn y dirwedd hon sy’n esblygu? Sut mae manteisio ar y cyfleoedd hyn a lliniaru’r risgiau?

Diddordeb mewn mynychu?