Gwrandewch ar y bennod hon o bodlediad Syniadau Iach yma:

Apple Podcasts

Spotify 

Google Podcasts

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. 

Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-SParc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig. 

Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar diogelu, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu. 

Dywed Pryderi:

“Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.”

Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-SParc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19. 

Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd, dywedodd: 

“Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen.” 

Gallwch ddod o hyd i fwy am waith Pryderi ag M-SParc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn y fideo isod. 

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach. 

Healthy Thinking

Gallwch glywed am beth sydd angen i weithgynhyrchwyr ei wneud a'i ystyried er mwyn cynhyrchu cyflenwad PPE i'r GIG yn effeithiol ac yn ddiogel yn ein podlediad Saesneg ‘Healthy Thinking’ ar gael yma.

Caiff ei gyflwyno gan Chris Martin, is-gadeirydd Comisiwn Bevan ac is-gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.