Rydym wedi ymrwymo i ddatgloi potensial llawn ein system iechyd cenedlaethol integredig, sy’n gwasanaethu 3.2 miliwn o bobl. Rydym yn canolbwyntio ar gyflymder, symlrwydd a chostau is ar gyfer treialon clinigol ac i brofi, datblygu a defnyddio atebion arloesol. 

Rydym yn realistig am yr heriau ond yn glir am y cyfleoedd ac yn troi ymchwil arloesol yn ganlyniadau yn y byd go iawn. Mae hyn yn golygu triniaethau newydd, diagnosis cyflymach, a mwy o effaith ar fywydau pobl. Mae datblygiadau arloesol yn digwydd yng Nghymru, gan greu swyddi, gwella bywydau, a sbarduno twf economaidd.
Mae cydlynu a chydweithio wrth wraidd ein gwaith. Rydym yn gweithio ar draws sectorau, llywodraeth a’r diwydiant, gan rannu gwybodaeth a meithrin ymddiriedaeth i wneud Cymru’n wlad lle mae arloesi yn fantais i bawb.

"Ers bron i 50 mlynedd, mae ecosystem esblygol Cymru a mynediad at weithlu medrus ac amrywiol wedi pweru Cytiva yng Nghaerdydd ac arloesedd gwyddorau bywyd byd-eang." -  John Clarke, Pennaeth Byd-eang Materion a Pholisi Llywodraeth, Cytiva