Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesol ffyniannus, sy’n cyflawni technolegau newydd i’r rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol er budd cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.

Mae astudiaethau achos yn ffordd wych i ddangos sut mae diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol ac academia yn cydweithio i ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl, gan drawsnewid systemau iechyd a gofal cymdeithasol ac arddangos ystod eang o arloesedd ledled y wlad.

Os oes gennych astudiaeth achos yr hoffech ei rhannu gyda ni i’w chyhoeddi ar ein gwefan, gallwch gwblhau’r ffurflen isod.

Os oes gennych unrhyw broblemau neu os oes angen arweiniad pellach arnoch, anfonwch e-bost i helo@hwbgbcymru.com

(Noder na fydd y ffurflen hon yn cael ei chadw’n awtomatig, felly rydym yn eich cynghori i gwblhau’r adrannau perthnasol mewn dogfen Word a chopïo’r wybodaeth i’r ffurflen.)

Eich manylion

Gwybodaeth am yr Astudiaeth achos

Rhowch deitl byr a bachog i'ch astudiaeth achos.
Crynhowch fanylion y prosiect mewn dwy neu dair brawddeg neu bwyntiau bwled.
Rhowch gyflwyniad byr i'ch astudiaeth achos.
Rhowch unrhyw fanylion ynghylch pam y dechreuodd y prosiect: beth oeddech chi’n ceisio ei ateb?
Sut dechreuodd y prosiect? Beth oedd angen digwydd?
Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu ar hyd y ffordd? Sut gwnaethoch chi ddelio â’r heriau hynny? Beth wnaethoch chi ddysgu o’r heriau?
Beth wnaethoch chi ei gyflawni ar ddiwedd y prosiect? Oes gennych chi unrhyw ddata / ystadegau y gallwch chi eu cynnwys fel tystiolaeth? Beth fydd yr effaith ar gleifion, defnyddwyr gwasanaethau, staff sy’n ymwneud â’ch prosiect?
A wnaeth unrhyw fudiad(au) penodol ddarparu cyllid i gefnogi’r prosiect?
Pwy oedd yn ymwneud â’r prosiect? Rhowch enwau’r holl randdeiliaid. Beth oedd rôl pob partner yn y prosiect?
Beth yw’r camau nesaf ar gyfer y prosiect hwn?
Dywedwch wrthym i ble hoffech chi i bobl gael eu tywys ar ôl iddyn nhw ddarllen eich astudiaeth achos. Gallai hyn fod yn wefan, cyfeiriad e-bost ac ati.
Dyfyniadau
more items
Rhowch unrhyw ddolenni i fideos, lluniau, ac ati yr hoffech chi gael eu cynnwys yn y darn.

Tagio

Pynciau

Hysbysiad preifatrwydd