Rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau gwyddorau bywyd ar draws y byd, a’u cefnogi i lywio’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Oherwydd bod pob sefydliad yn wahanol, rydyn ni’n defnyddio dull sydd wedi’i deilwra ar gyfer pob prosiect, drwy ddefnyddio ein profiad helaeth i helpu i ysgogi’r canlyniadau gorau. Rydyn ni’n dechrau gyda datblygu achosion busnes, cymorth ariannol a gwybodaeth o’r sector - dull trwyadl sy'n helpu'r broses ddatblygu gyfan.
Rydyn ni yma i helpu i'ch cysylltu chi â'r bobl a'r sefydliadau iawn ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a’ch cefnogi gyda chyfleoedd datblygu cydweithredol, paru cynnyrch, digwyddiadau a rhwydweithio.
Gall ein tîm Deall y Sector arbenigol hefyd gynnig mewnwelediad gwerthfawr ar draws y tirlun arloesi, drwy adnoddau fel adroddiadau’r farchnad, sganio’r gorwel a chymorth cyllid consortia.
Mae gwasanaethau cymorth eraill i'ch helpu i ddatblygu eich busnes yng Nghymru yn cynnwys hyrwyddo, lledaenu a chyfathrebu negeseuon o lwyddiant am brosiectau cydweithredol sy'n digwydd ar draws y wlad.