Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Gorff Hyd Braich Llywodraeth Cymru sydd wedi’i gyfansoddi fel cwmni preifat cyfyngedig drwy warant, sydd ym mherchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru.
Mae Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnwys Cadeirydd, naw Cyfarwyddwr Anweithredol (a elwir hefyd yn Aelodau Annibynnol). Mae’r Prif Weithredwr, ac aelodau’r Uwch Dîm Arwain, yn mynd i gyfarfodydd y Bwrdd.
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol, fframwaith llywodraethu, diwylliant sefydliadol a datblygiad, a datblygu cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol a chyflawni nodau ac amcanion Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae’r Bwrdd wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd mor dryloyw, agored ac atebol ag sy’n bosibl. Felly, mae’r tudalennau hyn yn rhoi trosolwg o gyfansoddiad y Bwrdd, strwythur llywodraethu’r sefydliad ac yn dangos sut y gwneir penderfyniadau i gyflawni cenhadaeth a gweledigaeth y sefydliad.
Mae gan y Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Arwain (Cyfarwyddwyr Gweithredol) gyfrifoldeb dirprwyedig dros gyflawni swyddogaethau corfforaethol Iechyd Gwyddorau Bywyd Cymru a rheoli’r sefydliad o ddydd i ddydd.
Mae’r Datganiadau o Fudd i Aelodau’r Bwrdd a’r Uwch Dîm Arwain ar gael drwy ein cynllun cyhoeddi.