Mae Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol yn cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac yn amodol ar archwiliad allanol blynyddol gan Archwilio Cymru.

Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi trosolwg o’n trefniadau llywodraethu a’n cydymffurfiaeth statudol, yn ogystal â throsolwg o’n gweithgareddau busnes strategol a gweithredol dros y flwyddyn.