Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024–25 yn amlygu sut mae cydweithio traws-sector yn mynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol i iechyd, cyfoeth a lles Cymru a’i phobl.

Rydym yn bodoli i helpu i wthio arloesedd ysbrydoledig ym maes gwyddorau bywyd i’w defnyddio ar y rheng flaen mewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae ein tîm yn gweithio i gefnogi diwydiant, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydliadau academaidd sy’n rhannu ein nod: defnyddio syniadau newydd i reoli, osgoi ac atal iechyd gwael.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn dangos sut rydym yn gwneud hyn. Mae’n archwilio’r prosiectau rydym wedi’u cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf a’u heffaith ar iechyd a lles pobl ledled Cymru, datblygiad economaidd, a’n cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.