Rydym yn gweithio’n agos gyda chlinigwyr, arloeswyr a gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu i ddod o hyd i atebion arloesol sy’n cynorthwyo gyda’r heriau rydych chi’n eu hwynebu i wella canlyniadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Mae ein gwasanaeth yn cael ei deilwra i anghenion y sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw, gan ddarparu adnoddau pwrpasol, gwasanaethau cyfeirio, a chanllawiau ar gyfer mabwysiadu dulliau arloesol.
Rydym yma i’ch helpu chi i gyflymu’r broses o ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau drwy ddod o hyd i bartneriaid arloesi o ansawdd uchel a darparu gwasanaethau rheoli a gwerthuso prosiectau.
Gall ein tîm arbenigol Gwybodaeth am y Sector hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr ar draws y dirwedd arloesi, gan gynnwys sganio’r gorwel am dechnolegau newydd, adroddiadau ar y farchnad, datblygu achosion busnes a chymorth ariannol.
Rydym yma hefyd i’ch helpu chi i hyrwyddo, ehangu a dathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar draws eich sefydliadau, gan helpu’r gymuned ehangach i ddeall yn well yr effaith rydych chi’n ei chael.