Mae ein gwasanaeth cymorth cyllid yn helpu arloeswyr i ganfod a sicrhau cyllid grant yn llwyddiannus er mwyn cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu datrysiadau arloesol ar gyfer gwell iechyd a llesiant.
Rydym yn cynnig gwasanaeth sydd wedi ei deilwra ar eich cyfer chi ac yn eich helpu chi i greu canlyniadau iechyd a gofal gwell i bobl Cymru.
Sut allwn ni helpu?
- Cyfeiriadur Cyllid - Cipolwg o’r cyfleoedd cyllid diweddaraf ym maes arloesedd iechyd.
- Eich cyfeirio at gyfleoedd - Oes gennych chi syniad arbennig, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gallwn ni eich cyfeirio chi at alwadau cyllido perthnasol a sicrhau eich bod chi’n gymwys ac yn bodloni'r meini prawf.
- Gwybodaeth am gyllid - Mae gennym ni fynediad at gronfa ddata gynhwysfawr fyd-eang o alwadau, rhaglenni a chynlluniau cyllido.
- Adolygu ceisiadau - Oes gennych chi ddrafft o gais am gyllid yn barod? Gall ein tîm olygu, adolygu a phrawfddarllen eich cais i sicrhau ei fod yn glir, yn afaelgar, ac yn barod i’w gyflwyno.
- Creu Consortiwm - Oes angen partneriaid arbenigol arnoch chi i’ch cynorthwyo â’ch prosiect arloesi? Gallwn ni eich helpu chi i ffurfio partneriaethau strategol drwy eich rhoi chi mewn cyswllt â chydweithwyr o’r byd academaidd, o’r diwydiant, ac o’r GIG.
Pwy sy’n gymwys i dderbyn ein cymorth?
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i ddatblygu arloesedd ym maes gofal iechyd a fydd o fudd i gleifion, yn gwella GIG Cymru, ac yn rhoi hwb i economi Cymru.
Mae ein cefnogaeth wedi ei deilwra ac ar gael i academyddion, partneriaid yn y diwydiant, clinigwyr, awdurdodau lleol ac elusennau.
Rydym yn awyddus i gefnogi ceisiadau am gyllid gyda'r meini prawf canlynol:
- Rhaid i’ch prosiect arloesi ganolbwyntio ar roi budd i iechyd a gofal, a disgwylir y bydd yn cael dylanwad amlwg yng Nghymru.
- Er nad oes angen i geisiadau gan sefydliadau academaidd neu fyrddau iechyd fod yn geisiadau cydweithredol bob amser, rydym yn annog sefydliadau i gydweithio am ei fod yn cryfhau eich cais.
- Os ydych chi’n fusnes sy’n chwilio am gefnogaeth, bydd rhaid i’ch cais ddangos eich bod yn cydweithio â sefydliad arall, fel sefydliad academaidd neu fwrdd iechyd.
- Os oes angen cymorth ariannol sydd ddim yn gyllid grant, gallwn ni eich cyfeirio at Busnes Cymru a/neu Banc Datblygu Cymru.