Darllenwch ein telerau ac amodau yn ofalus, oherwydd maent yn nodi ein gofynion cyfreithiol ni fel perchennog y wefan hon a’ch rhai chi fel rhywun sy'n ymweld â'r wefan.

Drwy ddefnyddio gwefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn a oedd yn gymwys ar ddyddiad eich ymweliad cyntaf, ac rydych yn cytuno i lynu wrthynt. Rydym yn eich cynghori i edrych yn ôl ar y telerau ac amodau yn rheolaidd, gan ein bod yn cadw'r hawl i'w diweddaru unrhyw adeg.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, sy’n cael eu llywodraethu gan reolaethau rheoleiddio a chyfraith contract y DU. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o’r telerau ac amodau hyn, neu o’ch defnydd chi o’r wefan, yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, mewn ffordd nad yw’n cyfyngu, rhwystro nac amharu ar ddefnydd a mwynhad unrhyw drydydd parti sy'n ymweld â’r wefan hon, nac yn amharu ar hawliau unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd arall.

 

Diffiniadau

Ystyr “Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru” yw “Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf”, sy'n cael ei alw'n “Hwb” hefyd. Mae ganddo swyddfeydd cofrestredig yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf, Hwb Chris McGuigan, 3 Sgwâr y Cynulliad, Caerdydd (CF10 4PL, Rhif Cwmni 08719645).

Ystyr “gwefan” yw “www.lshubwales.com” ac unrhyw dudalen sydd wedi ei chynnwys ar y parth hwnnw.

Ystyr “dy”, “chi” ac “eich” yw’r unigolyn neu’r unigolion sy'n mynd ar y wefan.

Ystyr “ni” ac “ein” yw Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf.

Ystyr “deunydd” yw unrhyw wybodaeth, yn cynnwys testun, ffotograffau, graffeg, nodau masnach, logos, dolenni, cod rhaglennu, data neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi ei chyhoeddi, wedi ei chynnwys neu sydd ar gael ar y wefan hon.

 

Deunydd ar y wefan hon

Mae’r deunydd a gyhoeddir ar y wefan hon ar gael i chi er gwybodaeth yn unig. Nid ydym yn gwneud unrhyw warantau o ran cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw ddeunydd a gyhoeddir ar y wefan hon ac, os byddwch yn dibynnu ar y deunydd, chi fydd yn atebol am hynny. Gallwn wneud newidiadau i’r deunydd ar y wefan hon unrhyw adeg, heb roi rhybudd. Gall deunydd ar y wefan hon gynnwys gwallau, rhai teipograffyddol neu unrhyw wallau eraill, ac mae’n bosibl y bydd y deunydd wedi dyddio. Nid ydym wedi ymrwymo i ddiweddaru'r deunydd hwn ac nid rhoi cyngor proffesiynol yw ei fwriad.

Ni allwn ni nac unrhyw drydydd parti arall y cyfeirir ato ar y wefan hon gymryd unrhyw gyfrifoldeb dros y ffordd y byddwch yn defnyddio’r wybodaeth sydd wedi'i darparu ar y wefan.

Gwybodaeth am hawlfraint

Mae pob nod masnach, logo, graffeg, delwedd, fideo, animeiddiad, testun a meddalwedd a ddefnyddir ar y wefan hon yn parhau i fod yn eiddo deallusol i ni. Dim ond ar gyfer eich defnydd personol y cewch arddangos, argraffu, atgynhyrchu a defnyddio’r deunydd hwn. Oni bai eich bod chi wedi cael cydsyniad ysgrifenedig gennym ni yn gyntaf, ni fydd modd i chi nôl, defnyddio, arddangos, copïo, addasu, argraffu, gwerthu, llogi na thynnu cynnwys o’r fath oddi wrth ei gilydd.

Dolenni sy'n mynd â chi oddi ar y wefan hon

Pan fyddwn ni’n darparu dolenni i wefannau eraill, rydym yn gwneud hynny er gwybodaeth yn unig. Nid ydym wedi dilysu cynnwys unrhyw wefannau o’r fath oherwydd eu bod y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Nid ydym yn gyfrifol am y deunydd a gyhoeddir ar unrhyw wefannau, tudalennau, dogfennau nac adnoddau eraill y mae dolenni iddynt ar ein gwefan neu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Os byddwch yn dewis dilyn dolenni i wefannau eraill, chi fydd yn atebol am wneud hynny. Eich cyfrifoldeb chi yw cymryd mesurau amddiffynnol i’ch gwarchod rhag firysau, elfennau dinistriol neu ddeunydd annymunol ar wefannau eraill.

Dolenni i'r wefan hon

Rydym yn croesawu dolennau i’r wefan hon ac i’r deunydd a'r wybodaeth sy’n wedi’u cynnwys ar y tudalennau hyn. Nid oes rhaid i chi ofyn am ein caniatâd i gynnwys dolen i’r wefan hon, ond cadwn yr hawl i ddefnyddio adnodd ôl-ddolenni Disavow Google, sy'n gofyn i Google anwybyddu unrhyw ddolenni i’n gwefan os ydym yn credu eu bod yn amhriodol, yn cynnwys sbam, o ansawdd gwael neu y byddant yn achosi difrod i’n sgoriau a'n henw da mewn unrhyw ffordd arall.

Mynd ar y wefan

Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod y wefan hon ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, ond ni allwn sicrhau amser gweithredol 100%. Ni fyddwn yn atebol os, am unrhyw reswm, na fydd y wefan ar gael unrhyw bryd, am unrhyw gyfnod, oherwydd mae’n bosibl y bydd y wefan yn cael ei hatal heb rybudd os bydd y system yn methu, os bydd gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio yn cael ei wneud iddi, neu oherwydd unrhyw resymau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

Defnyddwyr y wefan

Mae’r wefan hon wedi cael ei chreu yn unol â chyfreithiau’r DU a’r safonau hygyrchedd rhyngwladol. Ni allwn sicrhau y bydd unrhyw ddeunydd sydd wedi ei gynnwys arni yn cydymffurfio â gwledydd ac awdurdodaethau eraill, nac yn briodol i’w ddefnyddio ynddynt.

Preifatrwydd a diogelu data

Rydym wedi ymrwymo i warchod ein preifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn gwneud hyn, darllenwch eich polisi preifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddiwn ar y wefan hon, darllenwch ein polisi cwcis hefyd.

Cydymffurfio â deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd

Mae’r wefan hon yn ymdrechu i gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac i fodloni canllawiau Menter Hygyrchedd y We, a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang, consortiwm o 385 o sefydliadau sy'n cynghori ac yn addysgu ar safonau technolegau’r rhyngrwyd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad hygyrchedd.

Os oes gennych chi ragor o ymholiadau, mae croeso i chi anfon e-bost i ni yn hello@lshubwales.com, neu cysylltwch â ni.