Gall ein tîm gwybodaeth am y sector gynorthwyo eich sefydliad drwy roi gwybodaeth berthnasol ac arweiniad i chi am y dirwedd arloesi ym maes gwyddorau bywyd ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys eich cynorthwyo chi i ddatblygu achosion busnes, gwybodaeth o ansawdd uchel am y farchnad a gweithgareddau sganio’r gorwel. Gallwn hefyd gynnig canllawiau technegol ar eiddo deallusol, llwybrau rheoleiddio clinigol a modelu economaidd ym maes iechyd.