Bydd cyflwyno Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) yng Nghymru yn gwneud rhagnodi yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion. Mae Cronfa Arloesedd System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF) wedi'i sefydlu er mwyn cefnogi Cyflenwyr Systemau Fferylliaeth yn y Gymuned i gydymffurfio â'r EPS.
Nod y Gronfa yw darparu cymorth ariannol cyfartal trwy grantiau i Gyflenwyr, waeth beth fo nifer eu cwsmeriaid. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu tuag at y gwaith datblygu sydd ei angen i ddatblygu EPS ei hun (haen 1), yn ogystal ag arloesi tuag at brosesau fferylliaeth ddi-bapur (haen 2) ac integreiddio ag Ap GIG Cymru (haen 3).
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweinyddu cronfa grant CPSIF mewn cydweithrediad â’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (sy’n cael ei gynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru.
Gall busnesau sy’n gofrestredig yn y DU sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi, neu sydd â’r potensial i gyflenwi, fferyllfeydd yng Nghymru gyda gwasanaethau digidol, wneud cais am gyfanswm grant o hyd at £111,562.50. Mae tair haen i’r cyllid grant, a chroesewir ceisiadau ar gyfer unrhyw nifer o’r haenau hynny (rhaid cwblhau haen 1 yn llwyddiannus cyn ystyried taliadau ar gyfer haenau 2 a 3). Bydd pob haen ar gyfer uchafswm rhagddiffiniedig sydd ar gael, am hyd at 100% o’r costau refeniw y ceir tystiolaeth ohonynt ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â gofynion yr haen honno.
Os ydych chi’n dymuno gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Ddogfen Ganllaw isod i gael rhagor o wybodaeth, gan roi sylw penodol i’r cwmpas, y meini prawf cymhwysedd a’r meini prawf llwyddiant cyn llenwi’r ffurflen gais.
Ni ddylech ddechrau ar unrhyw waith sy’n ymwneud â gweithgareddau rydych chi’n gwneud cais am gyllid ar eu cyfer cyn y cynigir cyllid i chi. Bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cadarnhau’n ysgrifenedig pryd y gall y gwaith ddechrau.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
O 2025 ymlaen, mae PharmacyX Ltd, Invatech Health (Titan) Ltd, Egton Medical Information Systems Ltd, Positive Solutions Ltd, Clanwilliam Health Ltd a Cegedim RX Ltd wedi cael grantiau a gallant ddechrau datblygu eu systemau er mwyn i fferyllfeydd yng Nghymru allu defnyddio EPS. Mae’r gymeradwyaeth hon yn garreg filltir arwyddocaol, sy’n golygu bod chwe chyflenwr sydd â chontractau gyda fferyllfeydd yng Nghymru bellach yn cefnogi EPS.
Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol ar gael i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol digidol yng Nghymru. Er bod y cyfnod ymgeisio ar gyfer cyllid haen 1 wedi cau ym mis Hydref 2024, gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer haen 2 a haen 3 o hyd tan fis Mehefin 2025, er bod y trefnwyr yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod yn gynnar.
Arweinir y Gronfa gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â’r rhaglen Meddyginiaethau Digidol, ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae tair haen y gellir cyflwyno cynigion ar eu cyfer:
- Haen Un: (daeth y cyfnod ymgeisio ar gyfer haen un i ben ym mis Hydref 2024). Datblygu’r newidiadau sydd eu hangen a’u rhoi ar waith mewn systemau fferylliaeth gymunedol er mwyn galluogi EPS mewn fferyllfeydd yng Nghymru drwy gofnod meddyginiaeth cleifion sicr. Rhaid i gyflenwyr gwblhau’r haen hon yn llwyddiannus cyn gallu gwneud cais am gyllid haen dau a haen tri.
- Haen Dau: Galluogi prosesau di-bapur mewn fferyllfeydd yn y gymuned (heb ddiddymu hawl claf i ofyn am bresgripsiwn papur os yw’n dymuno).
- Haen Tri: Gallu anfon hysbysiadau gwthio i Ap GIG Cymru i roi gwybod i unigolion bod eu meddyginiaeth yn barod i’w chasglu, ynghyd â lleoliad y fferyllfa a’i horiau agor.
Mae’r CPSIF wedi ariannu’r holl weithgareddau EPS haen 1 ac mae bellach yn awyddus i barhau i ariannu gweithgareddau dewisol, ond pwysig, haen 2 a haen 3.
Bydd y grantiau yn helpu cyflenwyr i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio gwasanaeth presgripsiynau electronig a chael y presgripsiynau drwy drosglwyddiad electronig. Byddant hefyd yn helpu cyflenwyr i gyflwyno newidiadau arloesol i’w systemau, a fydd yn arwain at ddosbarthu presgripsiynau yn ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru pan gaiff ei lansio.
Mae’r Gronfa yn agored i geisiadau gan fusnesau cofrestredig yn y DU sydd eisoes yn cyflenwi, neu sydd â’r potensial i gyflenwi, gwasanaethau digidol i fferyllfeydd yng Nghymru. Dim ond gweithgareddau sy’n ymwneud â’r nodau a esbonnir ym mhob haen sydd o fewn cwmpas y gronfa. Mae uchafswm y cyllid sydd ar gael ym mhob haen wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, a bydd 100% o’r swm hwn ar gael am gostau refeniw y gellir dangos tystiolaeth ohonynt ar gyfer gwaith sy’n ymwneud â gofynion yr haen honno.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod eu cynlluniau yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r cwmpas a nodir yn y Ddogfen Ganllaw gyhoeddedig, sydd ar gael ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Dywedodd Sarah Clee, Arbenigwr Cyllid Grant, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae CPSIF wedi gallu dyfarnu cyllid i chwe chyflenwr i ddatblygu eu systemau a chyflwyno EPS yng Nghymru. Mae hyn yn helpu’r cyflenwyr i gyflwyno newidiadau mwy arloesol i’w systemau, gan gynnwys dosbarthu presgripsiynau yn ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru.
Ers ei chyflwyno yn 2023, mae’r cynnydd yn tynnu sylw at bŵer atebion digidol o ran sbarduno effaith lle mae ei hangen fwyaf, gan gefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a hoffem longyfarch derbynwyr y grant ar eu llwyddiannau hyd yma."
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn fundingsupport@lshubwales.com.