Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru
Corff aelodaeth proffesiynol yw Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru sy’n cynrychioli ac yn cefnogi cyfarwyddwyr ac uwch-reolwyr sy’n gweithio ym maes gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod llais y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn cael ei glywed wrth lunio polisïau. Mae’n darparu hyfforddiant, gwybodaeth, a chyfleoedd i rwydweithio. Mae ei chylchlythyr yn canolbwyntio ar y datblygiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf am waith a wneir gan yr arweinwyr yng ngwasanaethau cymdeithasol Cymru.
Comisiwn Bevan
Comisiwn Bevan yw melin drafod iechyd a gofal fwyaf blaenllaw Cymru. Mae’n herio, yn newid ac yn hyrwyddo meddwl ac ymarfer i sicrhau iechyd a gofal cynaliadwy sy’n barod at y dyfodol. Mae ei gylchlythyr yn cynnwys diweddariadau ar draws ei raglenni gwaith amrywiol.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn meithrin y genhedlaeth nesaf o wasanaethau sydd eu hangen i drawsnewid y ddarpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru. Mae eu cylchlythyr yn darparu’r diweddariadau digidol diweddaraf gan GIG Cymru yn syth i’ch blwch derbyn.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dod â phartneriaid at ei gilydd o GIG Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac eraill. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i ymchwilio i glefydau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau sy’n gallu arwain at ddarganfyddiadau a datblygiadau arloesol. Mae eu bwletin wythnosol yn cynnwys newyddion, digwyddiadau, hyfforddiant, cyllid a swyddi gwag ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Technoleg Iechyd Cymru (HTW)
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn sefydliad cenedlaethol sydd â’r nod o optimeiddio’r gwaith o wella iechyd y genedl drwy werthuso effeithiolrwydd technolegau iechyd, rhoi arweiniad ar weithredu, a chefnogi datblygiad polisïau. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth am bolisi a chanllawiau newydd.
Gwelliant Cymru
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a sefydliadau eraill yw Gwelliant Cymru, a’u cenhadaeth yw cefnogi datblygiad gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’r cylchlythyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol am eu gwaith parhaus.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru i ysgogi arloesi a chydweithio rhwng y meysydd diwydiant, iechyd, gofal cymdeithasol ac academia. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl, teuluoedd a busnesau ar hyd a lled y wlad, a sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd, gofal a lles. Mae’r cylchlythyr yn cynnig y newyddion diweddaraf am arloesi, a’r digwyddiadau a’r cyhoeddiadau diweddaraf ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.
MediWales
MediWales yw’r rhwydwaith gwyddorau bywyd annibynnol ar gyfer Cymru. Mae’n dod â diwydiant, academia a’r gymuned glinigol at ei gilydd i gefnogi datblygiad y gwyddor bywyd dynol yng Nghymru ac i greu cyfleoedd busnes a chydweithio ar gyfer ei aelodau. Mae eu cylchlythyr misol yn cynnwys digwyddiadau sydd ar y gweill, cyfleoedd cyllido, newyddion am y diwydiant, a mwy.
Moondance Cancer Initiative
Mae Moondance Cancer Initiative yn canfod, yn ariannu ac yn ysgogi pobl arbennig a syniadau dewr i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang ym maes goroesi canser. Ei nod yw cyflymu gwelliant sylweddol a pharhaus mewn canlyniadau goroesi canser dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Maent yn sefydliad nid-er-elw sy’n ariannu gwaith arloesi a gweithredu byw mewn lleoliadau clinigol a all gael effaith ar unwaith ar ganlyniadau goroesi canser i gleifion yng Nghymru.
Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cynhelir y Rhwydwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i nod yw hysbysu, hwyluso a chreu cysylltiadau ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector er mwyn gwella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru. Mae ei e-fwletinau yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol bob mis, gan gynnwys llesiant meddyliol, maetheg, ac anghydraddoldebau iechyd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer pobl Cymru. Mae’r e-fwletin misol yn cynnwys manylion eu holl newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf.
Gofal Cymdeithasol Cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio cenedlaethol sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithlu gofal cymdeithasol Cymru. Maen nhw’n gosod y safon ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant, yn cynnal cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol, yn darparu canllaw i ddarparwyr gofal cymdeithasol, a mwy. Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd a digwyddiadau sydd ar y gweill.
Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru (WAHWN)
Rhwydwaith o weithwyr iechyd a chelfyddydau proffesiynol ledled Cymru yw Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Mae’n rhwydwaith rhad ac am ddim sy’n agored i unrhyw un sy’n gweithio ym maes y celfyddydau, iechyd a llesiant, neu sydd â diddordeb yn hynny. Bydd ei gylchlythyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau ym maes y Celfyddydau ac Iechyd, erthyglau banc gwybodaeth newydd, cyllid, cyfleoedd gwaith, digwyddiadau a datblygiadau yn y sector.