Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi gwyddorau bywyd fywiog. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant y wlad ar ein tudalennau prosiect pwrpasol.
I gael rhagor o wybodaeth am bob prosiect ac i ddysgu sut gallwch chi gael gafael ar ein gwasanaethau cymorth rheoli prosiect, cysylltwch â hello@lshubwales.com.
Mae’r gwasanaeth CHOICE a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn ymgysylltu â grwpiau blaenoriaeth a all wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at ofal iechyd rhywiol a sgrinio arferol.
Cydweithrediad rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Sgrinio Serfigol Cymru, gyda'r nod o lywio cymorth penderfynu ar y cyd ar gyfer hunan-samplu HPV.
Mae Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaethau â Chymorth Robot yn chwyldroi mynediad at lawdriniaethau arloesol â chymorth robot i gleifion canser ledled Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio ar dreialu system rheoli meddyginiaeth ddigidol i wella canlyniadau iechyd i ddefnyddwyr meddyginiaeth.
Mae'r prosiect 12 mis hwn yn cynnwys defnyddio rhaglen deallusrwydd artiffisial i ddarparu asesiadau gwaelodlin o boen a brofir gan bobl â gallu cyfyngedig neu ddim gallu i gyfathrebu.
Mae Arloesedd Anadlol Cymru yn darparu rhaglen bwysig sy’n cyflwyno Uned Anadlol Symudol a fydd yn cynnig gwasanaethau diagnostig i bobl ledled Cymru. Mae hyn wedi bod gyda chymorth amrywiaeth o bartneriaid traws-sector, gan gynnwys Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Yn ystod y prosiect hwn, cynhaliwyd cynllun peilot i fonitro cleifion sydd â phroblemau cardiaidd (methiant y galon) ledled Cymru gan ddefnyddio ap yn eu cartrefi eu hunain.