
Mae mwy a mwy o bobl ledled y DU yn cymryd nifer fawr o feddyginiaethau, ac mae hynny’n creu her i’r maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cymryd eu meddyginiaethau’n gywir ac ar amser.
Un ateb posibl ydy adnoddau digidol i reoli meddyginiaethau. Cafodd un ei werthuso gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Gwelwyd bod yr adnodd a gafodd ei greu gan YOURmeds yn helpu pobl i gymryd y feddyginiaeth iawn ar yr adeg iawn – gan roi iddynt fwy o annibyniaeth, lleihau niwed a rhoi tawelwch meddwl i’w hanwyliaid. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar ein tudalen sydd wedi’i chreu ar gyfer y prosiect.
Yng ngham dau o’r cam gwerthuso hwn rydym yn datblygu’r gwasanaeth ymhellach ac yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac ar y llwyddiannau. Cyflwynwyd contract i YOURmeds drwy’r her Gofal Cartref dan arweiniad Contractau ar gyfer Arloesi Cymru ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Gan weithio gyda phartneriaid o wahanol sectorau, fe wnaethant gydweithredu i ehangu cwmpas y gwasanaeth a’i wneud yn fwy rhagweithiol ac ymatebol drwy ddefnyddio adnoddau digidol.
Nodau’r project
- Dal ati i recriwtio pobl sy’n dechrau defnyddio gwasanaethau tymor byr er mwyn annog annibyniaeth ac atal yr angen am ofal.
- Cynnal adolygiad o’r bobl sydd eisoes yn cael pecynnau gofal cartref i weld a ellid defnyddio dyfais ddigidol na chafodd ei chynnig o’r blaen, er mwyn gwella annibyniaeth bersonol, gwneud pecynnau gofal yn llai dwys a rhyddhau capasiti yn y system ofal.
- Rhoi mwy o ffocws ar ddatblygu gwasanaethau y gellir eu hehangu a chynnig y potensial i’w mabwysiadu’n ehangach yn ardal yr Awdurdod Lleol/Bwrdd Iechyd.
- Datblygu porth ar-lein YOURmeds i sicrhau bod modd rheoli carfannau mawr o ddefnyddwyr gwasanaethau o bell, a rhoi darlun cliriach o’r holl ddyfeisiau presennol drwy gyfrwng un dangosfwrdd canolog.
- Drwy gyfrwng gwaith ymchwil a datblygu yn sgil y prosiect peilot blaenorol, creu gwasanaeth meddyginiaeth digidol rhagweithiol ac ataliol a fydd yn defnyddio mantais data diagnostig fel arwydd cynnar o ddirywiad yn lles rhywun.
Amcanion y Prosiect
- Cynyddu’r niferoedd sy’n glynu wrth eu trefn cymryd meddyginiaethau yn gyffredinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i 80% neu uwch.
- Mwy o gleifion yn glynu wrth eu trefn cymryd meddyginiaeth, gan arwain at wastraffu llai o feddyginiaeth.
- Gwerthuso manteision darparu technoleg ddigidol i helpu pobl i lynu wrth eu trefn cymryd meddyginiaethau yn lle cynnal galwadau cymorth gofal cartref.
- Gwerthuso a yw dyfeisiau meddyginiaeth digidol yn helpu i gynyddu annibyniaeth a hyder defnyddwyr gan ganiatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.
- Mesur a yw symleiddio’r drefn cymryd meddyginiaeth, os nad yw dyfais ddigidol yn briodol o bosibl, yn ddull effeithiol o leihau galwadau gofal cartref ar gyfer y rheini sy’n cael cymorth gofal ar gyfer meddyginiaethau ar hyn o bryd.
- Creu platfform monitro o bell canolog gwell ac unigryw sy’n gallu cysylltu â nifer o ddyfeisiau meddyginiaeth sy’n darparu data amser real am lynu wrth drefn cymryd meddyginiaethau i wasanaethau cymunedol ac ymateb yn unol â’r data hwnnw.
- Gwerthuso a fydd y platfform monitro o bell canolog newydd yn helpu’r tîm optimeiddio meddyginiaethau i oruchwylio carfannau mawr o unigolion yn effeithiol gan ddefnyddio dyfeisiau meddyginiaeth yn y gymuned, i ddarparu gwasanaeth y gellir ei ehangu.
- Ystyried manteision cysylltu pob dyfais meddyginiaethau ddigidol â Chanolfan Derbyn Larymau yn ogystal â chylch gofal teuluol.
- Pen-y-Bont
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- YOURmeds Pack Ltd
- Pivotell Ltd
- Contractau ar gyfer Arloesi Cymru
- Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
- Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe
- Llywodraeth Cymru
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i weithio gyda’i gilydd i ehangu’r prosiect yn sgîl llwyddiant cam un.
Bydd yr Athro N, Rich (Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe) yn gweithredu fel mentor ac yn helpu â’r gwaith o werthuso’r prosiect.
Bydd YOURmeds Pack Ltd yn datblygu galluoedd eu dyfais a’i borth monitro mewn tri maes gwahanol yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr/teulu a staff fel rhan o ganlyniadau cam un y prosiect.
Bydd Pivotell yn cael ei gynnwys ym mhrosiect cam dau er mwyn ehangu’r dewis o ddyfeisiau meddyginiaeth sydd ar gael a chaiff manteision eu dyfeisiau eu cynnwys yn y gwerthusiad terfynol.
Bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i gynnig cymorth i reoli’r prosiect, rhoi cyllid a rhannu eu gwybodaeth am y sector.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch drwy anfon e-bost at helo@hwbgbcymru.com.