Mae amrywiaeth wych o ddigwyddiadau ar gyfer arloeswyr o’r maes diwydiant a maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gael yng Nghymru a thu hwnt. Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i gael gwybod beth sy’n cael eu trefnu gennym ni a sefydliadau blaenllaw sy’n canolbwyntio ar wella iechyd, gofal a lles drwy arloesi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ychwanegu eich digwyddiad at ein rhestr, cysylltwch â hello@lshubwales.com.
Wedi’i chynnal yn Riyadh, mae’r Arddangosfa Iechyd Byd-eang yn dod â dros 1,000 o gyflwynwyr byd-eang, dros 1,500 o arddangoswyr, a buddsoddwyr blaenllaw at ei gilydd.
Ymunwch â rhanddeiliaid o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, busnes ac academia ar gyfer digwyddiad heb ei ail gyda Prif Swyddog Meddygol Cymru, Isabel Oliver.
Cymerwch ran yn y digwyddiad sydd wedi'i ddylunio i wneud pob cysylltiad yn ystyrlon, wedi'i dargedu ac wedi'i anelu at gyflawni datblygiadau arloesol ym maes biotechnoleg.
Ymunwch ar gyfer Sioe Deithiol Exploring MedTech Opportunities, cyfres o ddigwyddiadau dynamig sy’n arddangos y datblygiadau a’r cyfleoedd busnes diweddaraf yn yr Almaen, Awstria, a’r Swistir (rhanbarth DACH), marchnadoedd technoleg feddygol mwyaf dylanwadol Ewrop.
Bydd Cynhadledd Technoleg Iechyd y DU ABHI yn archwilio’r themâu pwysicaf sy’n dylanwadu ar ein diwydiant, gan ganolbwyntio ar fynediad i farchnad y DU a rheoleiddio.
Ydych chi’n gweithio ym maes ymchwil ac arloesi canser, neu’n darparu gofal iechyd yng Nghymru? Ydych chi’n frwd dros sicrhau bod lleisiau’r cleifion a’r cyhoedd yn ganolog i’ch gwaith?
Ydych chi’n chwilio am ddatrysiadau i heriau wrth ddarparu gwasanaethau strôc? Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod a allai technoleg helpu? Peidiwch â cholli’r cyfle i archwilio, trafod a chysylltu â thimau strôc a chyflenwyr technoleg yn y Symposiwm Technoleg Strôc cenedlaethol cyntaf.
Mae MEDICA yn denu mwy na 5,000 o arddangoswyr o 165 o wledydd, yn amrywio o sefydliadau sydd gyda’r gorau yn y byd i gwmnïau bach, a mwy na 80,000 o ymwelwyr.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal digwyddiad arbennig sy'n arddangos gwir effaith prosiectau PTG. Gallwch glywed yn uniongyrchol gan academyddion, partneriaid busnes, a Chymdeithion PTG, ar y cyd â mewnwelediadau gan Innovate UK.
Mae dyfodol Cymru yn galw! Ymunwch â miloedd o bobl ar draws pob sector i ddarganfod cymwysiadau technoleg yn y byd go iawn i gyflymu eich perfformiad, eich cynhyrchiant a’ch gwytnwch wrth i'r amgylchedd newid drwy’r amser.
Darganfod canfyddiadau allweddol a chyflwyniadau o'r Ystadegau Swyddogol yn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru.
Bydd Datblygu Arloesedd y GIG yn dod â grwpiau cleifion, cyrff llywodraethol, diwydiant a chyrff y GIG at ei gilydd, gan gydweithio i symleiddio'r broses o fabwysiadu arloesiadau newydd ym maes gofal iechyd.
Daw Rhaglen Genomeg Byd-eang y Prosiect Polisi Cyhoeddus ag arbenigwyr rhyngwladol, arweinwyr genomeg cenedlaethol, ac arbenigwyr meddygaeth genomeg ar draws y sectorau gwyddorau bywyd a gofal iechyd at ei gilydd i wella ymchwil genomeg a gweithredu clinigol ar draws y byd.
Mae Cynhadledd Gwyddorau Bywyd The Scotsman 2025 yn dod ag arweinyddion diwydiant, arloeswyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod y pynciau pwysicaf a’r tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn gwyddorau bywyd heddiw.
Bydd y gynhadledd hon yn galluogi gweithwyr proffesiynol o bob rhan o sefydliadau’r GIG, a mwy, i drafod ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau gyda’r nod cyffredin o leihau anghydraddoldebau yn unol â’r dull Core20PLUS5.
Mae SEHTA yn falch o gyflwyno’r gweithdy hanner diwrnod hwn ar y cyd â Product Sustainability by Design i gynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gynaliadwyedd a’r llwybr i gyflawni sero net.
Mae MediWales yn edrych ymlaen at groesawu diwydiant, y byd academaidd, a staff iechyd a gofal cymdeithasol am noson i ddathlu llwyddiannau'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.