Trydydd parti
,
-
,
Ar-lein

Ydych chi'n barod i archwilio cyfleoedd rhyngwladol a allai drawsnewid dyfodol eich sefydliad ym maes iechyd a gwyddorau bywyd?

A woman in an orange jumper looking at a laptop

Pam dod i’r digwyddiad?

Mae'r sesiwn hon yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu, cydweithio ac arloesi gyda sefydliadau blaenllaw yng Ngwlad y Basg a darganfod sut y gall eich sefydliad elwa ar bartneriaethau rhyngwladol.

Bydd y sesiwn yn cynnwys y canlynol:

  • Cipolwg ar dirwedd iechyd a gwyddorau bywyd Gwlad y Basg
  • Cyflwyniadau uniongyrchol i unigolion allweddol, yn cynnwys:
  • Clwstwr Iechyd Gwlad y Basg
  • BIOEF – Sefydliad Ymchwil ac Arloesi ym maes Iechyd Gwlad y Basg
  • SPRI – Masnach a Buddsoddi yng Ngwlad y Basg
  • BRTA – Cynghrair Ymchwil a Thechnoleg Gwlad y Basg
  • Osakidetza – Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd Gwlad y Basg
  • Adinberri – Sefydliad yn canolbwyntio ar heneiddio a'r Economi Arian
  • Gwybodaeth am flaenoriaethau strategol, strwythurau cymorth, a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol mewn ymchwil ac arloesi ym maes iechyd
Diddordeb mewn ymuno?