Beth rydym yn ei wneud  

Ein cenhadaeth yw cyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i sicrhau gwell iechyd a lles.

Rydym yma i helpu i drawsnewid iechyd a lles economaidd y genedl drwy wneud y canlynol: 

  1. Cyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol sy’n cefnogi anghenion iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 
  2. Gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i hyrwyddo datblygu economaidd ar draws y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, gan sbarduno twf busnes a chreu swyddi. 

Er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd, rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddeall yr heriau a’r pwysau y gallai sefydliad eu hwynebu. Ar ôl nodi hyn, rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i ganfod a chefnogi’r broses o ddatblygu atebion arloesol i ymateb i’r heriau hyn.  

Mae ein tîm arbenigol yn darparu cymorth pwrpasol i gyflymu pob taith arloesi, p’un ai ydym yn cefnogi clinigydd sydd â syniad gwych neu’n hwyluso partneriaethau â sefydliadau gwyddorau bywyd rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth am ein cymorth Arloesi ar gael yma.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu i sbarduno newid ar draws y system drwy gynnull a threfnu ecosystem arloesi ar draws sectorau. Mae’r cysylltiadau hyn yn ein galluogi i greu cyfleoedd gwerthfawr i rwydweithio a chyfateb.  

Cyflwyno ein rhaglenni  

Mae sefydliadau sy’n ymwneud â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cael eu grymuso i wella canlyniadau iechyd a lles i bobl yng Nghymru, cynyddu effeithlonrwydd a gwerth yn y systemau iechyd a gofal cymdeithasol, a sbarduno datblygiad economaidd a chreu swyddi. Mae ein rhaglenni presennol yn canolbwyntio ar ddarparu atebion iechyd a gofal critigol: 

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cysylltu’r diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisïau, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr er mwyn creu amgylchedd arloesi digidol yn y maes gofal iechyd yng Nghymru. Ei nod yw ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach mabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth am Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.  

Mae Cyflymu Cymru yn gydweithrediad blaengar rhwng Prifysgol Caerdydd (CIA), Prifysgol Abertawe (HTC), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, yn helpu i droi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn gyflym. Rhagor o wybodaeth am Cyflymu Cymru.