Gweithrediad ac Effaith
Yn dilyn y gweithdai, bydd proses ymgysylltu helaeth â chlinigwyr yn mireinio cynllun gweithredu, gan nodi prosiectau a gweithgareddau trawsnewidiol. Dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, bydd grŵp goruchwylio strategol yn cynnwys uwch arweinwyr yn llywio blaenoriaethau, yn goresgyn rhwystrau, ac yn sicrhau cyflawniad. Bydd y dull cydweithredol hwn yn datblygu mapiau ffordd gweithredu manwl, yn archwilio modelau ariannu arloesol, ac yn mynd i'r afael â rhwystrau mabwysiadu i gyflawni newidiadau cyflym ac effeithiol mewn gofal canser ledled Cymru.