Daeth ein digwyddiad diweddar yng ngogledd Cymru, a gynhaliwyd ar y cyd ag Academi’r Gwyddorau Meddygol â chydweithwyr o bob rhan o’r GIG a gofal cymdeithasol, y byd academaidd, sefydliadau’r trydydd sector a diwydiant at ei gilydd i archwilio sut gall cydweithio helpu i ddatblygu arloesedd canser mewn gofal sylfaenol.
Yn ystod y dydd, fe wnaeth y rhai a oedd yn bresennol rannu cydnabyddiaeth gref bod llwybrau canser wedi dod yn fwyfwy cymhleth, a bod dulliau cydweithredol ar draws y system yn cynnig cyfle gwirioneddol i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion.
Datblygiadau arloesol o ran canser mewn gofal sylfaenol
Myfyriodd Dr Elaine Hampton, Hwylusydd Meddyg Teulu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar sut mae gofal eilaidd wedi dod yn fwy arbenigol dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda llawfeddygon a thimau clinigol bellach yn canolbwyntio ar rannau llai o’r corff. Er bod hyn o fudd i driniaeth, gall ei gwneud anoddach i feddygon teulu wybod ble i atgyfeirio achosion brys lle mae amheuaeth o ganser. Ochr yn ochr â hyn, trafododd Elaine y newidiadau demograffig a’r ffactorau ffordd o fyw sy’n parhau i gynyddu’r galw am ymchwiliadau, gan arwain at restrau aros hirach a phwysau cynyddol ar draws gwasanaethau.
Pwysleisiodd y siaradwyr y cydbwysedd rhwng dilyn canllawiau NICE a defnyddio barn glinigol – yn enwedig wrth geisio cynyddu diagnosis cynnar heb lethu gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Tynnodd eiriolwyr cleifion sylw hefyd at y ffaith y gall unigolion iau neu asymptomatig ei chael yn anoddach ymuno â llwybrau pan nad yw eu cyflwyniadau’n cyfateb yn daclus i feini prawf clinigol, gan bwysleisio pwysigrwydd gwneud penderfyniadau cefnogol a hyblyg mewn gofal sylfaenol.
Integreiddio arloesedd yn y llwybr
Roedd un thema allweddol i’r digwyddiad yn nodi sut y dylid defnyddio datblygiadau arloesol ac adnoddau diagnostig newydd o fewn llwybrau presennol. Roedd y trafodaethau’n archwilio a ddylid defnyddio datblygiadau arloesol yn ddilyniannol neu ochr yn ochr â phrofion diagnostig eraill, a’r effaith y mae dyluniad llwybrau yn ei chael ar gyflymder, cywirdeb ac effeithlonrwydd diagnosis. Atgyfnerthodd y meddygon teulu werth cael systemau fel canolfannau diagnostig cyflym, sy’n gallu cefnogi achosion lle’r amheuir canser a lleihau’r angen i feddygon teulu gynnal gwybodaeth fanwl am bob prawf sydd ar gael, yn enwedig gan fod mwy o ofyn o hyd iddynt fod yn “arbenigwyr ar draws pob maes.”
Wrth drafod sut mae datblygiadau arloesol yn cyd-fynd â’r llwybrau presennol, pwysleisiodd nifer o siaradwyr bwysigrwydd deall pryd y dylid defnyddio adnoddau a phrofion, yn ogystal â sut mae ffactorau ehangach yn siapio llwybr y claf. Enghraifft a godwyd yn ystod trafodaeth y panel yw bod cleifion yng ngogledd Cymru yn cael eu hanfon i Lundain ar gyfer canser y prostad (llawdriniaeth robotig). Mae’r ddibyniaeth hon ar lawfeddygon arbenigol iawn sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru yn golygu teithio helaeth i gleifion ac yn cyflwyno costau ychwanegol a phwysau logistaidd.
Ysgogodd hyn gwestiwn ehangach ynghylch cost-effeithiolrwydd, cydbwyso cost teithio a chael yr arbenigedd yn Llundain, yn erbyn gwerth posibl datblygu gallu lleol i ddarparu’r triniaethau a’r arbenigedd hyn yng ngogledd Cymru. Roedd ystyried lleoliad arbenigedd yn codi cwestiynau ehangach ynghylch lle dylid canolbwyntio buddsoddiad i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gofal sylfaenol a’r llwybr diagnostig.
Panel: Safbwyntiau a rennir
Daeth y panel â safbwyntiau traws-sector at ei gilydd, pob un yn tynnu sylw at y pwysau a’r cyfleoedd sy’n siapio arloesedd mewn gofal sylfaenol. Er eu bod yn dod o gefndiroedd gwahanol, roedd y negeseuon a rannwyd ganddynt yn cyd-fynd yn agos.
Siaradodd aelod o banel ABHI am yr angen i fireinio llwybrau clinigol a gwella brysbennu, gan adlewyrchu llawer o’r pwyntiau cynharach a godwyd am gymhlethdod llywio diagnosis canser a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion a chlinigwyr.
O safbwynt meddygon teulu, roedd cydnabyddiaeth bod gofal eilaidd arbenigol yn gallu ei gwneud yn anoddach llywio a chysylltu â gofal sylfaenol. Er bod profion diagnostig yn gallu bod yn ddefnyddiol, maent hefyd yn gallu creu rhwystrau’n anfwriadol, lle gallai trothwyon anhyblyg leihau hyblygrwydd o ran penderfyniadau atgyfeirio, gan wneud atgyfeirio ymlaen i ofal eilaidd yn anoddach. Mae hyn yn golygu, mewn rhai achosion, bod cleifion yn cael eu hatgyfeirio’n ôl at ofal sylfaenol, gan arwain at oedi sy’n cyfyngu ar y ffenestr canfod yn gynnar, ac a allai arwain at ganser mwy datblygedig erbyn i brofion pellach gael eu cynnal.
Atgyfnerthodd yr aelod o’r panel cleifion bwysigrwydd cael pobl drwy ddrws y meddyg teulu a chryfhau eiriolaeth ar gyfer y rhai nad ydynt bob amser yn bodloni’r meini prawf clinigol. Roedd eu cyfraniad yn cyd-fynd â’r adborth cryf gan y rhai oedd yn bresennol bod cael cynrychiolwyr cleifion yn y digwyddiad yn “newid popeth”, gan ddod ag eglurder i ble gall systemau wneud mwy i gefnogi pobl sy’n ymuno â’r llwybr diagnostig.
Mewnwelediadau o’r treial ThinkCancer!
Cyflwynodd tîm ThinkCancer! drosolwg o’u hastudiaeth, ar draws meddygfeydd yng Nghymru a rhannau o Loegr, gan adeiladu ar raglen bum mlynedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r treial yn ystyried a all ymyriad ThinkCancer! wella cyfraddau diagnosis a chyfeirio canser a sicrhau gwelliannau cost-effeithiol o ran canlyniadau cleifion.
Nod yr astudiaeth yw cefnogi meddygon teulu i ganfod canserau posibl yn gynharach. Mae’n dod â thimau practis at ei gilydd ar gyfer gweithdai, i fesur yr amser rhwng ymweliad cyntaf claf sydd â symptom canser posibl â meddyg teulu ac atgyfeiriad i’r ysbyty. O gasglu data o ddechrau'r symptomau, atgyfeiriadau a diagnosis, bydd yr astudiaeth yn ceisio deall y rhesymau y tu ôl i oedi.
Cyfleoedd i Gymru
Drwy gydol y digwyddiad, roedd ymdeimlad clir bod Cymru mewn sefyllfa gref i ddatblygu arloesedd canser mewn gofal sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys symud tuag at systemau sylfaenol ac eilaidd unedig, gan gynnig cyfle i gryfhau’r gwaith o gasglu data a symleiddio llwybrau. Y nod yw adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio yng ngwasanaethau’r GIG, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar dechnolegau newydd a allai ychwanegu amrywiadau diangen i’r llwybr ac at lwyth gwaith staff y GIG.
Awgrymodd trafodaethau gweithdai y dylid penodi “hyrwyddwyr lleol” ar draws adrannau i gefnogi cydweithio, cynnal momentwm a dysgu ar y cyd. Er bod heriau o ran systemau a chyllid yn parhau, roedd cydgytundeb bod arloesi ystyrlon yn cynnwys ailfeddwl llwybrau, gwella mynediad diagnostig ac ymgorffori dulliau gofal mwy integredig sy’n canolbwyntio ar y claf.
Yn gyffredinol, roedd cyd-ddealltwriaeth nad yw arloesi’n ymwneud â thechnoleg newydd yn unig - mae hefyd yn golygu gwella a newid ac ail-lunio llwybrau. Mae diagnosis cynharach yn dibynnu ar wella mynediad at ddiagnosteg gofal sylfaenol, cefnogi meddygon teulu i ddehongli canlyniadau, ac ymgorffori’r rhain yn weithredol mewn llwybrau clinigol i gefnogi cyfraddau canfod yn gynnar.
Nod y digwyddiad oedd dod â chydweithwyr o bob sector at ei gilydd, fel rhan o raglen waith traws-sector AMS, i ddathlu gwaith arloesedd canser sydd eisoes ar y gweill ym maes gofal sylfaenol. Rhannwyd syniadau a thrafodaethau ysbrydoledig, gan ddangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn cydweithio ac yn dod â chydweithwyr at ei gilydd sy’n frwd dros ddatblygu arloesedd canser. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn gan James Bourne, ein Rheolwr Cyflawni Partneriaethau yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn amlinellu’r gwaith ymgysylltu clinigol y mae’n ei gefnogi i helpu i flaenoriaethu a datblygu arloesedd canser yng Nghymru.
Cymerwch ran
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio neu os oes gennych chi syniad i wella canlyniadau canser, cysylltwch â manon.owen@lshubwales.com.