Blwyddyn Newydd Dda, a chroeso i 2025. Eleni, rydym ni’n edrych ymlaen at gael manteisio ar fwy o gyfleoedd sy’n codi oherwydd ein partneriaeth gydag Academi'r Gwyddorau Meddygol.
Mae ein partneriaeth ni âg Academi’r Gwyddorau Meddygol yn parhau i sbarduno arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda lansiad diweddar ‘Hybiau Traws-Sector’ Academi’r Gwyddorau Meddygol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, mae hi’n gyfnod cyffrous i gymryd rhan a dylanwadu ar y flwyddyn sydd i ddod.
Cadwch y dyddiad yn rhydd!
Bydd digwyddiad olaf ein rhaglen ar gyfer 2024/25 yn cael ei gynnal ar 5 Chwefror 2025 yng ngogledd Cymru, ac yn canolbwyntio ar Lesiant ym maes Canser.
Ymunwch â ni er mwyn dysgu mwy am brosiectau cydweithredol, clywed am fentrau cyffrous newydd, a chwrdd â sefydliadau sydd wedi ymroi i lesiant cleifion canser.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Sesiynau Gwybodaeth
- Trafodaethau bwrdd am bynciau amserol
- Cyfleoedd i rwydweithio
Peidiwch â cholli allan! Cofrestrwch nawr ar dudalen y digwyddiad er mwyn cysylltu ag eraill a chanfod pobl i gyd-weithio â nhw er mwyn datblygu eich prosiect.
Gwobrau Profiad Traws-sector
Rydym ni’n gyffrous iawn eleni hefyd am gael cefnogi’r Gwobrau Profiad Traws-Sector. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi hyd at £100,000 i sefydliadau er mwyn eu galluogi i gefnogi staff sydd eisiau mynd ar secondiad a chael profiad o weithio mewn sector arall am gyfnod o dri i ddeuddeg mis.
Dyma ffordd wych o annog sectorau i ddysgu o waith ei gilydd a sbarduno arloesedd.
Rydym ni’n awyddus iawn i weld mwy o geisiadau o Gymru, felly cysylltwch os oes angen help arnoch chi gyda’ch cais!
Mae holl fanylion y gwobrau i’w gweld yma.
Edrych i’r dyfodol: Partneriaeth Academi’r Gwyddorau Meddygol 2025/26
Wrth i ni fynd ati i baratoi at ran nesaf ein partneriaeth byddwn ni’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Mynd i’r Afael â Chanser
- Gwella Iechyd Menywod yng Nghymru
- Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial
Bydd y Rhaglen Draws-Sector yn parhau i roi sylw i brosiectau ym mhob rhan o Gymru, gan annog pobl i gyfnewid gwybodaeth, a chefnogi arloesedd er mwyn sbarduno cynnydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys lansio cronfa gyflymu.
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddylunio’r rhaglen ar gyfer 2025/26. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, neu os oes gennych chi syniadau neu gwestiynau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at colette.buckley@lshubwales.com.