Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Parc Gwyddoniaeth Menai M-SParc, Gaerwen LL60 6AG

Ymunwch â ni i drafod prosiectau cydweithredol a mentrau traws-sector, ac i glywed gan y sefydliadau sy’n gweithio i ddeall a gwella llesiant cleifion canser.

People talking at an event

Gallwch rwydweithio â chyd-weithwyr i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio er mwyn gwella ansawdd gofal canser ledled Cymru. Bydd y diwrnod yn ferw o sesiynau llawn gwybodaeth a chyfleoedd i rwydweithio.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu rhagor am y Gwobrau Profiad Traws-Sector, sy’n derbyn ceisiadau rhwng 5 Tachwedd 2024 a 27 Chwefror 2025.

Amser Eitem a Siaradwr Disgrifiad
9:30 – 10:00 Cofrestru a Lluniaeth
10:00 – 10:05 Croeso gan y Cadeirydd, Jason Lintern, Llywodraeth Cymru Bydd cadeirydd y diwrnod yn croesawu pawb ac yn rhoi trosolwg o'r diwrnod.
10:05 – 10:15 Croeso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
10:15 – 10:25 Croeso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 
10:30– 10:40 Cyflwyniadau Cyflym Dod i adnabod rhywun newydd – bydd y sesiwn hon yn helpu pawb i wneud cysylltiadau newydd!
10:45 – 11:05 Sgwrs 1 Dawn Cooper, Catrin Plews and Dawn Cooper, Macmillan Diwrnod ym mywyd Cydlynydd Gwybodaeth Canser Macmillan
11:15 -11:35 Egwyl am baned
11:40 – 11:55 Sgwrs 2 Lowri Griffiths, Tenovus Cancer Care Rhoi cymorth, gobaith, a llais i bawb sy’n cael eu heffeithio gan Ganser
12:00– 12:20

Trafodaethau bwrdd/ Table Discussions

  1. Cydweithio: Sut gall ymchwilwyr, clinigwyr a chleifion gydweithio'n fwy effeithiol i ddatblygu ymchwil canser?
  2. Adnoddau: Pa adnoddau addysgol sydd eu hangen fwyaf i gefnogi cleifion a’u teuluoedd ar ôl triniaeth canser?
  3. Gofal Cyfannol: Pa rôl y mae gofal cyfannol (e.e. maeth, ymarfer corff) yn ei chwarae o ran llesiant cleifion canser?
  4. Iechyd Meddwl: Sut gallwn ni fynd ati’n well i gefnogi anghenion iechyd meddwl cleifion a goroeswyr canser?
12:25 – 12:45 Sgwrs 3 Dr Katherine Knighting, Edge Hill University & Danielle Percival, The Joshua Tree FFYNNU: Cefnogi ymyriadau mewn achosion o ganser plant
12:55 – 14:00 Cinio Rhwydweithio a Chloi

 

Mae'r digwyddiad hwn ar agor i bob cydweithiwr, ar bob cam o'u gyrfaoedd, sydd â diddordeb mewn Arloesi Iechyd ac sydd eisiau cydweithio. Mae croeso i bob sector fynychu gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, academia, y trydydd sector a'r sector preifat/diwydiant.

Archebwch eich lle.