Mae angen i ymchwilwyr, clinigwyr, rheoleiddwyr, llunwyr polisïau a chleifion a’r cyhoedd gydweithio i helpu i ddatrys heriau mawr sy’n wynebu gofal iechyd. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Academi'r Gwyddorau Meddygol yn y DU i dreialu’r rhaglen i annog cydweithredu drwy ddigwyddiadau rhwydweithio. Yr hwb rhwydweithio yng Nghymru fydd y gyntaf yn y cynllun, gyda mwy o hybiau i’w sefydlu ledled y DU maes o law. 

Sut bydd y rhaglen yn gweithio? 

Er gwaethaf y cynlluniau symudedd traws sector presennol, mae bylchau penodol y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd. Bydd y rhaglen newydd hon yn ceisio hybu cysylltiadau a gweithgarwch mewn meysydd blaenoriaeth penodol i ymchwil iechyd, gan gynnwys dadansoddi data a deallusrwydd artiffisial ar gyfer genomeg, patholeg, datblygu cyffuriau a delweddu meddygol, a therapi celloedd a genynnau. 

Mae’r heriau allweddol i weithio ar draws sectorau yn cynnwys: 

  • Diffyg cymhelliant 
  • Anawsterau o ran cysylltu â’r bobl a’r sefydliadau iawn 
  • Ychydig o gydnabyddiaeth i symudedd mewn gwerthusiadau datblygiad gyrfa 
  • Bylchau diwylliannol rhwng sefydliadau 
  • Diffyg adnoddau i gefnogi ymgysylltiad ac ôl-lenwi ymchwilwyr symudol, yn enwedig gan y GIG a busnesau bach.  

Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy ddwy brif elfen: 

1. Sefydlu hybiau lleol 

Bydd yr Academi yn sefydlu hybiau lleol yng ngwledydd a rhanbarthau datganoledig y DU, mewn partneriaeth â sefydliadau lleol. Eu nodau fydd: 

  • Cysylltu ymchwilwyr ar draws sectorau drwy ddigwyddiadau rhwydweithio thematig, sy’n benodol i’r blaenoriaethau ar gyfer ymchwil iechyd a meysydd cryfder lleol  
  • Rhoi hwb i gydweithredu a phrosiectau ymchwil traws sector newydd – gall y rhai sy’n bresennol wneud cais am gronfeydd sbarduno ar ôl y digwyddiadau  
  • Cynyddu ymwybyddiaeth ymchwilwyr o gydweithio posibl a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd i gysylltu o fewn gwahanol sectorau  
  • Hyrwyddo cyfleoedd sy’n cefnogi gweithio ar draws sectorau  

2. Adeiladu ar gysylltiadau 

Bydd y rhaglen hon yn cryfhau unrhyw gysylltiadau a wneir drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill. Bydd cyllid cystadleuol, agored ar gael, yn 2023, ar ôl sefydlu’r hybiau rhwydweithio cyntaf, i gefnogi symudiad hyblyg ymchwilwyr rhwng y byd academaidd, y diwydiant a’r GIG.  

Mwy o wybodaeth am y rhaglen:

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Academi’r Gwyddorau Meddygol i dreialu’r hwb gyntaf yn eu Rhaglen Traws Sector. Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â ni ar helo@hwbgbcymru.com.