Troi syniadau yn atebion sy'n newid bywydau
Daw syniadau da ar sawl ffurf. Ffordd i gyfnewid niwronau sydd wedi’u niweidio mewn cleifion strôc, system i olrhain cleifion a chyfarpar mewn ysbytai mewn amser real, a mwy. Rydym yn sylweddoli weithiau mai’r syniadau symlaf yw’r rhai gorau. Ond pa mor dda bynnag yw syniad, ni fydd yn werth dim nes bydd yn ateb real, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Diben ein Rhaglenni yw canfod atebion real i broblemau iechyd a gofal.