Gwybodaeth am y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial 

Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial yn gasgliad amrywiol o uwch arweinwyr o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd, sy’n rhannu’r un genhadaeth. Gydag arbenigedd a safbwyntiau amrywiol, mae’r Comisiwn yn bwrw ymlaen â’r gwaith o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol yng Nghymru.

Wedi ymrwymo i wella iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r Comisiwn yn arwain y gwaith o ddatblygu ac adolygu dulliau deallusrwydd artiffisial arloesol. Drwy gynnig cyngor arbenigol, mae’n sicrhau bod technolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu gweithredu’n ddiogel ac yn foesegol.

Gan weithio’n agos gyda sefydliadau a phartneriaid, mae’r Comisiwn yn meithrin diwylliant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, gan hyrwyddo atebion arloesol sydd o fudd i bawb.


Pam ei fod yn bwysig

Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y pŵer i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol, gan wella canlyniadau ac effeithlonrwydd. Drwy hyrwyddo defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial, nod y Comisiwn yw creu dyfodol lle mae technoleg yn gwella gofal i bawb. 


Aelodau, Blaenoriaethau ac Amcanion