Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25 yn tynnu sylw at sut mae cydweithio ar draws sectorau yn mynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol i iechyd, cyfoeth a llesiant Cymru a'i phobl.

Rydym yma i helpu i sbarduno datblygiadau arloesol ysbrydoledig yn y gwyddorau bywyd i gyrraedd y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae ein tîm yn gweithio i gefnogi diwydiant, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau academaidd sy’n rhannu'r un nod â ni, sef defnyddio syniadau newydd i reoli, osgoi ac atal iechyd gwael.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn dangos sut rydym yn gwneud hyn. Mae'n edrych ar y prosiectau rydym wedi'u cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf, a'u heffaith ar iechyd a llesiant pobl ledled Cymru, datblygu economaidd, a'n cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Dyma gipolwg ar ffigurau 2024-25:
Gwneud bywyd yn well i gleifion yng Nghymru
- 64,606 o gleifion wedi cael mynediad at arloesedd
- 1,040 yn llai o ddiwrnodau wedi’u treulio yn yr ysbyty gan gleifion
- 2,191 yn llai o ymweliadau clinigol
Sbarduno twf economaidd yng Nghymru
- Sicrhau £3.895 miliwn o dwf yng Ngwerth Ychwanegol Gros y Cwmnïau yng Nghymru
- Sicrhau £5.046 miliwn o gyllid
- Denu gwerth £2.44 miliwn o fuddsoddiad
Cefnogi’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi 8 o brosiectau mabwysiadu
- Cwblhau 119 o asesiadau arloesi
- Llunio 16 adroddiad gwybodaeth am y farchnad, 28 adroddiad sganio cyflym, 4 adroddiad sector a 4 adroddiad rhyngwladol
At ei gilydd, gwnaethom sicrhau enillion ar fuddsoddiad o £9 am bob £1 a wariwyd.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae'r adroddiad hwn yn brawf o bwysigrwydd arloesi cydweithredol ar draws y maes gwyddorau bywyd.
“Mae arloesi wrth galon y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau amseroedd aros, gwella mynediad at ofal, a thrawsnewid sut rydym yn canfod ac yn trin clefydau fel canser.
“Ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i fod yn gatalydd ar gyfer arloesi drwy ei raglenni cymorth, ei brosiectau a'i bartneriaethau pwrpasol. Mae ei waith yn gwella canlyniadau ac yn cryfhau ein heconomi.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf yn dangos pŵer cydweithio a'r datblygiadau arloesol anhygoel sy'n trawsnewid y ffordd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu ledled Cymru.
“Rydym yn falch o fod yn bartner ar gyfer prosiectau arloesi ym maes iechyd, boed hynny ar gyfer presgripsiynau digidol neu ddiagnosteg canser arloesol - mae ein gwaith yn parhau i gael effaith go iawn. Yn 2024-25, rydym wedi gweld 64,606 o gleifion yn cael mynediad at arloesedd, sy'n 29% o gynnydd o'i gymharu â'r hyn a gofnodwyd gennym yn 2023-24. Mae ein cydweithrediad agos â diwydiant yn ganolog i'r llwyddiant hwn—gan gefnogi dros 100 o asesiadau arloesi a helpu busnesau i gyflwyno atebion sy'n gwella gofal ac yn ysgogi twf economaidd.
“Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, rydym yn dal yn benderfynol o hyrwyddo cydweithio, cefnogi busnesau gwyddorau bywyd twf uchel, a gosod Cymru fel arweinydd byd-eang mewn arloesi ym maes iechyd. Rydw i'n hynod falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd."